Hysbysiad Preifatrwydd

Cefndir Dyfodol i’r Iaith

Sefydlwyd Dyfodol i’r Iaith i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol i greu cynlluniau lle bydd y Gymraeg yn adennill tir. Ei nod fydd dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn egluro’r hyn fydd Dyfodol yr Iaith Cyf (a enwir fel “ni” o hyn ymlaen) yn ei wneud gyda’ch data personol pan fyddwch yn cysylltu â ni neu’n rhoi gwybodaeth i ni amdanoch chi eich hun.

Beth yw’r sylfaen gyfreithiol o fewn Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol dros gasglu a phrosesu gwybodaeth amdanoch?

  • Byddwn yn casglu a phrosesu data amdanoch yng nghategori ‘diddordeb busnes cyfreithlon’.
  • Wrth ddanfon negeseuon marchnata y categori Caniatâd fydd y sylfaen gyfreithiol.

Pa ddata personol byddwn yn ei gasglu?

Rydym yn casglu a chadw’r wybodaeth isod amdanoch pan fyddwch yn gwneud cyfraniad neu dâl aelodaeth er mwyn prosesu taliadau, boed hynny drwy’n gwefan neu drwy’r post. Dyma’r wybodaeth a gesglir amdanoch:

  • Enw
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cod post a chyfeiriad e-bost
  • Galwedigaeth
  • Manylion Banc

Sut fyddwn yn defnyddio eich data personol?

Defnyddir eich data er mwyn:

  • Prosesu taliadau
  • Cadw mewn cyswllt â chi drwy bost/e-bost er mwyn:
    • eich hysbysu o newyddion ac am ddigwyddiadau’r mudiad
    • eich annog i fod yn weithredol o blaid amcanion y mudiad
    • danfon rhai negeseuon yn ymwneud â chodi arian i’r mudiad neu negeseuon marchnata eraill (gyda’ch caniatâd)

Pwy fydd yn prosesu eich data personol?

Defnyddir proseswyr allanol, sef Paypal a bancio ar-lein ar gyfer prosesu cyfraniadau a thâl aelodaeth. Caiff gweddill y gwaith prosesu taliadau ac aelodaeth ei gyflawni yn fewnol gan Drysorydd a staff cyflogedig Dyfodol i’r Iaith.

Rydym yn defnyddio Mail Chimp i reoli’r rhestr o bobl sydd wedi tanysgrifio i’n cylchlythyr. Defnyddir y data sydd ar Mail Chimp ar gyfer yr amcanion a nodir uchod (sut fyddwn yn defnyddio eich data personol).

Pwy fydd yn cael mynediad i’ch data personol?

Mae’r cronfeydd data yn cael eu cadw yn ddiogel yn electroneg neu wedi’u cloi mewn ffeiliau a thrwy Mail Chimp.

Dim ond Staff cyflogedig, Swyddogion ac aelodau Bwrdd Dyfodol i’r Iaith sy’n cael gweld y data ac nid yw’n cael ei rannu gyda sefydliadau eraill.

Am ba hyd y cedwir eich data personol?

Cedwir y wybodaeth amdanoch tra byddwch yn cyfrannu’n ariannol tuag at waith Dyfodol i’r Iaith neu’n derbyn ein Cylchlythyr.

Gallwch ddewis peidio derbyn ein Cylchlythyr ond parhau i gyfrannu’n ariannol at ein gwaith ac fe gedwir eich holl wybodaeth tra byddwch yn gwneud hyn.

Byddwn yn archifo’r wybodaeth amdanoch am hyd at 1 blwyddyn pan fyddwch yn dod â’ch aelodaeth/cyfraniadau i ben neu pan ddaw yn glir eich bod wedi terfynu eich aelodaeth/cyfraniadau. Ar ôl hyn caiff yr holl wybodaeth amdanoch ei ddileu.

Os ydych yn derbyn ein cylchlythyr yn unig, caiff y wybodaeth amdanoch ei ddileu yn syth pan fyddwch yn ein hysbysu nad ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth oddi wrthym.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i dderbyn gwybodaeth
  • i fynediad i’ch data
  • i gywiro eich data
  • i ddileu eich data
  • i gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • i wrthwynebu prosesu (o dan rai amgylchiadau)

Nid yw hawliau o ran penderfynu a phroffilio awtomatig a chludadwyedd data yn berthnasol i’n dulliau gweithredu ni.

Sut allwch ddewis neu ddileu’r wybodaeth rydym yn ei gadw amdanoch?

Os ydych yn dymuno:

  • cael mynediad i unrhyw ddata sydd gennym amdanoch
  • cywiro unrhyw wallau
  • dileu eich manylion
  • cyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data

o unrhyw gronfa ddata Dyfodol i’r Iaith, gellir gwneud hynny ar unrhyw adeg drwy ddanfon neges e-bost at [email protected]

Bydd holl negeseuon marchnata Dyfodol i’r Iaith yn cynnwys cyfle symi i ddad-danysgrifio.

Technoleg awtomataidd neu ryngweithiadau a phroffilio

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata technegol personol na phroffilio wrth i chi ymweld â’n gwefan.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gofnodi a dadansoddi’r defnydd a wneir o’n gwefan er mwyn gwella defnyddioldeb a hygyrchedd ein gwefan. Data cyfansymiol am ddefnydd y wefan a gesglir yn unig. Ni chesglir unrhyw ddata yn y categori hwn a ellir ei ddefnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Diogelwch

Mae cyfrinachedd a diogelwch eich data yn bwysig i ni a chymerwn bob cam posib i sicrhau diogelwch eich data personol.