Cyrraedd Pum Nod

Mae pum cam o bwys i’r iaith wedi’u cymryd eleni, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.  Bu Dyfodol i’r Iaith yn cynnal trafodaethau mewn sawl maes,  ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, yn ôl y Cadeirydd, Heini Gruffudd.

Y pum llwyddiant yw:

  • Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
  • Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
  • Cyhoeddi adnodd Cyngor Gofal Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd gwasanaethau gofal
  • Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn.”

“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”

“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”

“Rydyn ni yn ystod y mis nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.”

Dwy Sianel Radio

CROESAWU’R POSIBILRWYDD O DDWY SIANEL RADIO

Mae Dyfodol yr Iaith yn croesawu datganiad Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, y gall hi fod yn bosibl cael dwy sianel radio Gymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Fe wnaethon ni gyflwyno tystiolaeth i’r BBC yn galw am ddwy sianel – Radio Pawb a Radio Pop.  Y nod yw cael un sianel draddodiadol, ac un sianel i bobl ifanc.”

“Rydyn ni wrth ein bodd bod rhai o raglenni newydd Radio Cymru’n boblogaidd, ac mae Tomo’n amlwg wedi gwneud ei farc yn sydyn iawn a rhifau gwrando Radio Cymru’n codi.”

“Yr hyn sy’n anodd ar hyn o bryd yw bodloni pob math o gynulleidfa yr un pryd.  Yn y Saesneg mae modd dewis o blith nifer fawr o sianeli, a bydd yn wych i wrandawyr Cymraeg gael siawns i ddewis y sianel sy’n apelio fwya iddyn nhw.”

“Mae’n dda deall y bydd datblygiadau technegol yn ei gwneud yn bosibl cael dwy sianel Gymraeg, naill ai o dan ofal y BBC neu o dan ofal darlledwyr annibynnol.”

Y Gymraeg a Chwaraeon

GALW AM YMGYRCH I GYSYLLTU CHWARAEON A’R GYMRAEG   Wrth longyfarch Tîm Cymru ar eu campau yng Ngemau’r Gymanwlad, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’n wych clywed rhai o fabolgampwyr Cymru’n siarad Cymraeg ar y radio a’r teledu, gan ddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yn y byd chwaraeon.” “Mae’r Urdd trwy drefnu Chwaraeon Cymru wedi rhoi arweiniad cadarn wrth ddod â’r iaith i ganol byd chwaraeon. “Yr angen yn awr yw gwneud yn siŵr bod chwaraeon, y mabolgampau a gweithgareddau nofio a hamdden ar gael trwy’r Gymraeg ar lawr gwlad ym mhob sir yng Nghymru. “Byddai’n dda i’r Safonau Iaith a gaiff eu trafod gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd osod targedau i Awdurdodau Lleol o ran cyflwyno gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc. “Mae angen hefyd am ymgyrch hyrwyddo’r iaith ymysg clybiau chwaraeon.  Mae rhai esiamplau gwych, fel clwb rygbi Crymych, sy’n cynnal 11 o dimau rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg. “Mae rhai sefydliadau cenedlaethol, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwefan a chyhoeddiadau, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig delwedd Saesneg iawn. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Comisiynydd Iaith a’r Prif Weinidog yn cydweithio i greu rhaglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd nesaf.”