LLYTHYR CADEIRYDD DYFODOL AR DORIADAU I’R GYMRAEG

Gweler isod lythyr Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol ar doriadau i’r Gymraeg. Anfonwyd copi at Y Cymro a Golwg. Anfonwyd at bod Aelod Cynulliad yn ogystal, gan ofyn am eu sylwadau a’u cefnogaeth

Annwyl Olygydd,

Fe dynnodd Dyfodol i’r Iaith sylw at y ffaith fod cyllid y Llywodraeth Cymru’n codi bob blwyddyn tan 2019/20 a bod dim sail ariannol, felly, dros dorri arian i’r Gymraeg gan 6%.   Gwirionedd yw hyn ond mae’r Llywodraeth yn ceisio’i liwio a’i guddio.

Fe ddywedodd llefarydd y Llywodraeth fod ‘honiadau Dyfodol i’r Iaith yn gamarweinol’ ac nad ydynt ‘yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ariannol’.

Pwy sy’n twyllo pwy tybed? Dyma’r arian a gaiff Llywodraeth Cymru yn y setliad ariannol o Lundain, fesul blwyddyn:

2015-6             £14.38 biliwn

2016-7             £14.56 biliwn

2017-8             £14.67 biliwn

2018-19           14.77 biliwn

2019-20           14.93 biliwn

Erbyn 2019-20, bydd y Llywodraeth yn derbyn hanner biliwn o bunnoedd yn ychwanegol.  Mae hyn yn gynnydd o ryw 4%.  Mae’r Llywodraeth yn dweud, fodd bynnag, fod yr arian a gaiff ‘yn parhau i grebachu mewn termau real’, sef gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.

Pe bai’r Llywodraeth yn dal i roi’r un swm i’r Gymraeg, byddai’r ‘gwerth real’ yn lleihau, felly, yn ôl y raddfa chwyddiant. Ond trwy dorri’r arian i’r Gymraeg, mae’r Gymraeg yn dioddef ddwywaith – yr arian go iawn yn eich llaw – toriad o 6% –  a gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.

Dim ond un rheswm sy’n esbonio’r toriadau i’r Gymraeg, sef bod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth isel iddi.

Mae hyn yn dilyn sawl ergyd i’r iaith a’i siaradwyr:

  • Toriadau i S4C a bygythiadau pellach
  • Methiant y Llywodraeth i sicrhau twf addysg Gymraeg
  • Toriadau’r Llywodraeth i arian Cymraeg i Oedolion
  • Toriad o 10% i gyhoeddi Cymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith yn ddigon parod i ganmol y Llywodraeth pan mae’n haeddu.  Mae unrhyw arian i’r Gymraeg yn talu ar ei ganfed – o ran swyddi a denu gwirfoddolwyr, cynnal diwylliant  a chreu amodau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Erbyn hyn mae angen gweledigaeth glir ar sut mae cynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, a chynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae’r Llywodraeth yn honni  ei bod yn ‘rhoi blaenoriaeth i bob gweithgarwch sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg’.  Ond does dim un wlad arall wedi gweld cynnydd ieithyddol trwy dorri arian i’w hiaith. Oes gan ein Llywodraeth ni gyfrinach yn hyn o beth?

Mae onestrwydd wrth drafod y toriadau i’r Gymraeg yn gam cyntaf i drafodaeth greadigol.

Yn gywir

Heini Gruffudd

Cadeirydd, Dyfodol i’r Iaith

YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”

DYFODOL I’R IAITH YN GALW TORIADAU I’R GYMRAEG YN GYWILYDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi anfon sylwadau beirniadol ar Gyllideb ddrafft y Llywodraeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad. Mae’r mudiad yn herio sail y toriadau i feysydd yn ymwneud a’r Gymraeg ac yn galw am i’r Llywodraeth ddileu’r toriadau niweidiol hyn, sy’n tynnu’n groes a’u hamcanion strategol a’u dyletswyddau cyfreithiol.

Dywed Dyfodol bod y Cyllid drafft yn dangos bod y Llywodraeth yn cael mwy o arian bob blwyddyn o Lundain, a bod y toriadau i’r Gymraeg yn gwbl ddiangen.

Bydd y Llywodraeth yn derbyn 4% yn rhagor o arian erbyn 2019-20, ac mae’r swm yn cynyddu fesul blwyddyn.

Mae’r ffigyrau a ddefnyddir gan y Llywodraeth i gyfiawnhau’r  toriadau yn seiliedig ar lefel chwyddiant o 3.6%, lefel sy’n llawer uwch na’r uchafswm o 0.5% a welwyd yn ystod 2015, ac yn uwch na rhagolygon Trading Economics o 2.1% erbyn 2020. Bydd y toriadau i’r Gymraeg yn cael eu cynyddu yn sgil chwyddiant, serch bod cyllid y Llywodraeth yn cynyddu mewn gwirionedd. Dyma benderfyniad sy’n dangos diffyg blaenoriaeth a gweledigaeth tuag at y Gymraeg yn hytrach nag unrhyw reidrwydd economaidd.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Wrth gyflwyno’r toriadau hyn, mae’r Llywodraeth yn tynnu’n groes i’w hymrwymiad polisi tuag at y Gymraeg. Ar amser allweddol fel hwn, mae cwtogi’r gefnogaeth i ddiwylliant, celfyddyd, cyhoeddi a darlledu cyfrwng Cymraeg yn gywilyddus. Ar yr un pryd, mae cynlluniau sy’n hyrwyddo’r iaith yn cael eu torri a’i dileu tra erys y twf yn addysg Gymraeg yn anfoddhaol. ’Does angen fawr o ddychymyg i ragweld yr effaith gronnus druenus gaiff hyn ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg.”

“ Yn hytrach na thoriadau i’r meysydd allweddol hyn, mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno rhaglen gynhwysfawr sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd teuluol, cymdeithasol, diwylliannol a’r gweithle. Ni fydd modd gwneud hyn heb sicrhau cyllid teilwng.”