GOFYN I AWDURDOD S4C GWRDD AR FRYS I GANSLO YMGYRCH IS-DEITLAU SAESNEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi beirniadu arbrawf pum niwrnod S4C i osod is-deitlau Saesneg yn ddiofyn ar rai o’i rhaglenni mwyaf poblogaidd, ac mae’r mudiad yn galw ar Awdurdod y sianel i gyfarfod ar frys i ganslo’r ymgyrch wallus hon.

Wrth dderbyn pwysigrwydd is-deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg i rai gwylwyr, mae’r mudiad yn bryderus iawn fod y Saesneg yn cael ei gorfodi ar un o beuoedd allweddol y Gymraeg. Mae’n amlwg hefyd fod yr is-deitlau awtomatig Saesneg yn amharu’n sylweddol ar brofiad gwylio siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

” Daeth yn amlwg mai methiant llwyr bu’r arbrawf o’r cychwyn. Mae’r ymatebion fyrdd ar wefannau cymdeithasol, yn enwedig gan bobl ifanc, cynulleidfa’r dyfodol, yn brawf o hyn .Pryder mawr pellach yw bod rhai cyhoeddiadau’n dilyn y rhaglenni wedi bod yn Saesneg, gan newid iaith y sianel a thanseilio rheswm ei bodolaeth. Mae’r sawl sy’n mwynhau ac yn disgwyl y Gymraeg yn cael eu siomi, a dysgwyr yn colli’r profiad gwerthfawr o gael eu trochi yn yr iaith.

Byddwn yn galw ar S4C i ail-ystyried yr arbrawf gwallus hwn, gan adfer a hyrwyddo dewis i’w gwylwyr o safbwynt is-deitlau.”

CYFARFOD CYHOEDDUS ABERTAWE

Yn dilyn llwyddiant ein cyfarfod yn y Bala, bydd Dyfodol yn cynnal ein cyfarfod cyhoeddus nesaf yn Abertawe yn NhŷTawe ar nos Fawrth 8fed o Fawrth am 7.00 y.h.

Dewch draw i glwyed mwy am Dyfodol a’n maniffesto, Creu Dyfodol i’r Gymraeg. Bydd cyfle i ymuno â’r drafodaeth, ac efallai ymaelodi â ni. Cofiwch rannu’r neges gyda’ch teulu a’ch cyfeillion yn ogystal!cyfarfod Ty Tawe Mawrth 8, 2016 - 2

CYFARFOD CYHOEDDUS: CREU DYFODOL I’R GYMRAEG

Mae Dyfodol ar daith … Byddwn y cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus hyd a lled Cymru i rannu gweledigaeth ein maniffesto, Creu Dyfodol i’r Gymraeg. Bydd yn gyfle i chwi holi, trafod ac efallai ymaelodi â ni.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Y Bala ar nos Lun Chwefror 22 am 7.30 yn Ystafell Tom Ellis, Canolfan Henblas, Y Bala.

Os na allwch ymuno â ni yn y Bala, cofiwch y byddwn yn cyhoeddi cyfarfodydd pellach mewn gwahanol ardaloedd maes o law.

Dewch draw am drafodaeth fywiog, a cofiwch rannu’r neges gyda’ch teulu a’ch cyfeillion

Poster Cyfarfod Y Bala