DYFODOL I’R IAITH YN CEFNOGI BWRIAD LLYWODRAETH CYMRU I SEFYDLU COMISIWN Y GYMRAEG

Cyfarfod Cyhoeddus Llanbed 17.11.17

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith. Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.

Meddai cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Dyfodol a lansiodd y syniad o greu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein maniffesto Creu Dyfodol i’r Gymraeg a gyhoeddwyd yn 2015. Buon ni’n lobïo’r pleidiau cyn etholiad 2016 ac fe gyflwynon-ni ddogfen arbennig, Asiantaeth y Gymraeg, i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (a oedd bryd hynny wedi sefydlu Compact â’r Llywodraeth Lafur), yn Nhachwedd 2016. Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awr yn bwriadu deddfu i sefydlu ‘r Comisiwn newydd hwn.

“Er ein bod yn anghytuno ynghylch rhai agweddau o’r Papur Gwyn a gyhoeddodd y gweinidog Alun Davies yn Eisteddfod Ynys Môn, mae’r Llywodraeth wedi derbyn prif drywydd ein gofynion ni. Mae’n holl bwysig nawr i garedigion yr Iaith gyd-dynnu i wneud llwyddiant o’r trefniadau newydd. Wrth i’r Bil newydd ddilyn ei gwrs drwy’r Cynulliad bydd angen pwyso er mwyn sicrhau nad yw bwriadau’r Papur Gwyn yn cael eu glastwreiddio a bod rhai gwendidau yn cael eu cywiro”

Meddai Cynog Dafis, “Bydd rhaid i’r Llywodraeth ddangos na fydd hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwanhau drwy fod rol y Comisiynydd presennol yn cael ei chynnwys o fewn y Comisiwn newydd. Ond bydd sefydlu’r Comisiwn yn gyfle euraid i ddatblygu rhaglenni cyffrous i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu a’r gymdeithas ac ym myd gwaith ac wrth gwrs drwy helaethu addysg Gymraeg yn ddirfawr.

“Fodd bynnag dyw bwriadau da ddim yn ddigon. Os yw nod y llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 i’w gymryd o ddifrif, rhaid wrth adnoddau ariannol sylweddol a chael pobl gymwys ac ymroddedig yn y swyddi allweddol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn gydnabyddus â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnya lle y gweithredwyd polisïau cynhwysfawr i adfywhau eu hieithoedd cynhenid yn llwyddiannus.”

Fe gyflwynir a thrafodir hyn ymhellach mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan heno yn Festri Capel Brondeifi am 7 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadeirydd y cyfarfod yn Llanbed heno yw Ben Lake AS a ddywedodd “Rwy’n falch o gael cadeirio’r cyfarfod hwn yn nhref fy magwraeth a chlywed am y gwaith pwysig y mae Dyfodol wedi’i wneud i ddylanwadu ar bolisiau Llywodraeth Cymru”.

CROESAWU CYTUNDEB Y BBC AC S4C

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C.  Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith,

‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf.  Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd.  Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru.  Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”

CYFARFOD CYHOEDDUS LLANBED: GOBAITH NEWYDD I’R GYMRAEG

Poster Llanbedr Pont Steffan

Byddwn yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn Festri Capel Brondeifi Llanbed ar yr 17 o Dachwedd am 7 y.h., gyda Heini Gruffudd, Cynog Dafis, a’n gwestai arbennig, Ben Lake AS. Bydd croeso cynnes i bawb, felly cofiwch alw heibio os ydych yn y cyffiniau.

Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o raglen Dyfodol i’r Iaith i gynnal cyfarfodydd ledled Cymru, a bydd yn dal i wneud hyn.

Un nod yw cael gwybodaeth gan bobl leol: beth sy’n helpu’r iaith yn lleol? Beth yw’r heriau?

Nod arall yw cyflwyno sut mae Dyfodol i’r Iaith am weld pethau’n digwydd.  Rydyn ni am roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r iaith yn y gymdeithas, yn y cartref ac yn y gwaith, fel bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith.

Ar hyn o bryd, ac efallai ers hanner canrif, mae’r prif bwyslais wedi’i roi ar ennill statws i’r Gymraeg ac ar hawliau unigolion. Erbyn hyn mae’n rhaid newid y pwyslais, i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith.

Ers ei sefydlu 5 mlynedd yn ôl mae Dyfodol i’r Iaith gweld llawer o’i gynigion yn cael eu derbyn, gan gynnwys:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu canolfan genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi lle i’r Gymraeg yn y ddeddf Cynllunio
  • Sefydlu ail sianel radio
  • £2 filiwn i hyrwyddo’r Gymraeg

Y peth nesaf mawr o bwys fydd gweld y llywodraeth yn sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am arwain cynllunio iaith a hyrwyddo’r iaith. Dyma destun y papur gwyn y mae’r llywodraeth wedi’i baratoi.  Rydyn ni’n gobeithio y caiff hwn ei sefydlu erbyn 2020.

Y pwnc mawr dros yr ugain mlynedd nesaf yw cael mwy o siaradwyr Cymraeg, a’r un mor bwysig yw ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio’r iaith.

Fydd hyn ddim yn digwydd heb gynllunio gofalus, a gweithredu creadigol.  Ddaw hyn ddim yn y drefn bresennol, lle mae newidiadau gwleidyddol yn gallu torri ar draws cynlluniau.  A ddaw hi ddim tra bod cymaint o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn llaesu dwylo.

I ddylanwadu ar y llywodraeth, fel corff lobio cyfrifol, mae ar Dyfodol i’r Iaith angen cefnogwyr, a bydd denu cefnogwyr ac aelodau, wrth gwrs, yn nod arall i’r cyfarfod.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio cadarn a chreadigol.