ANGEN CANLLAWIAU CADARN I REOLI DEFNYDD O’R SAESNEG AR S4C

Gyda defnydd cynyddol o’r Saesneg i’w glywed ar raglenni S4C, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ganllawiau cadarn i sicrhau mai’r Gymraeg a glywir wrth wrando ar y sianel.

Dywedodd Eifion Lloyd Jones, Llefarydd Dyfodol ar ddarlledu:

“Mae’n bryder mawr gennym glywed cymaint o Saesneg ar raglenni. Sianel Gymraeg, nid dwyieithog yw S4C, sy’n codi’r cwestiwn a fyddai BBC Wales, dyweder, yn fodlon bod yn sianel ddwyieithog. Dymunwn i S4C roi cartref diogel i’r Gymraeg lle y mae hi’n gallu ffynnu fel cyfrwng naturiol a diofyn. Mae presenoldeb cynyddol y Saesneg mewn rhaglenni yn tanseilio ei chenadwri fel Sianel Gymraeg ac yn rhwystr i fynegiant a chynrychiolaeth yr iaith.

Yn amlwg, ceir ambell eithriad prin lle bo’r Saesneg yn anorfod – ar y Newyddion, er enghraifft, lle gall pwysau amser rwystro trosleisio – ond dim ond os yw’r cyfweliad yn ddigon pwysig i’w gynnwys yn uniongyrchol yn hytrach na’i aralleirio yn Gymraeg.

Syndod y sefyllfa, fodd bynnag, yw nad yw’n ymddangos fod polisi na chanllaw clir ynglŷn â’r defnydd o Saesneg mewn rhaglenni, hyd y deallwn o’n trafodaethau gyda’r penaethiaid. Credwn fod hwn yn ddiffyg sylfaenol, a byddwn yn parhau i drafod a phwyso ar y Sianel i lunio trefn ymarferol er mwyn diogelu S4C fel un o beuoedd pwysicaf y Gymraeg.”

 

DYFODOL YN MYNNU BOD CYNLLUN GOFAL PLANT YN CEFNOGI’R GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i bwysleisio bod rhaid i’r cynllun newydd o gynnig 30 awr o ofal plant gefnogi nod y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Er bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol mewn egwyddor, mae’n rhaid iddo roi pwyslais digonol ar wasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun amcan y Llywodraeth ei hun i gynyddu’r nifer siaradwyr.

Bydd cynnig gofal plant Saesneg i’r rhan fwyaf o blant cyn-ysgol yn tanseilio addysg Gymraeg ac yn milwrio yn erbyn y nod o filiwn o siaradwyr. Mynnwn sicrwydd gan y Gweinidog na fydd hwn yn enghraifft arall o un adran o’r Llywodraeth yn gweithredu heb roi sylw i amcanion adrannau eraill.”

 

 

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN GWASANAETH AC EGWYDDOR CANOLFANNAU IAITH GWYNEDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan gofid ynglŷn â thoriadau posib i Ganolfannau Iaith Gwynedd. Dyma’r gwasanaeth ar gyfer disgyblion Cynradd newydd i’r sir sy’n eu trochi yn y Gymraeg er mwyn eu paratoi ar gyfer addysg Gymraeg a hwyluso eu cyflwyniad i fywyd cymunedol Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Byddai unrhyw gwtogi ar y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn ffwlbri noeth. Mae’r Canolfannau hyn eisoes wedi profi eu gwerth a’u llwyddiant. Maent hefyd yn crisialu egwyddor sy’n greiddiol i lwyddiant Strategaeth y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef bod rhaid i’r Gymraeg fod yn hygyrch i bawb os yw am ffynnu.

Byddwn yn galw felly ar i’r Llywodraeth a Chyngor Gwynedd gydnabod a chynnal  gwaith aruthrol y Canolfannau hyn; eu dyrchafu’n wir, fel esiampl ddisglair o’r hyn y mae modd ac y dylid ei gyflawni er budd y Gymraeg.”