NEGES I’R PRIF WEINIDOG: CYNLLUNIO IEITHYDDOL YN HANFODOL I DWF Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu llythyr i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn mynegi eu pryderon ynglŷn â dyfodol polisi cyhoeddus y Gymraeg.

Bu diddymu Bil y Gymraeg yn gam wrthdroadol, ac yn hytrach nag anelu at ymateb arloesol i anghenion yr iaith, y perygl bellach yw cadw’r pwyslais ar reoleiddio a hawliau’n unig. Mae Dyfodol yn grediniol bod angen ymateb ehangach a fframwaith strategol cadarn os am greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Trefn fyddo’n rhoi lle dyledus i’r Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi, gan fynd i’r afael ag oblygiadau cymdeithasol a chymunedol ei dysgu a’i defnyddio.

Mae’r mudiad yn galw am i’r Llywodraeth fabwysiadu egwyddorion Cynllunio Ieithyddol fyddai’n diwallu anghenion y Gymraeg ar draws ystod o feysydd allweddol, megis: creu aelwydydd Cymraeg, Cymreigio’r gweithle, gwarchod a chryfhau ei chadarnleoedd, yn ogystal â’i datblygu fel cyfrwng cymdeithasol naturiol.

Yn absenoldeb y math o gorff eangfrydig a addawyd ym Mil y Gymraeg, mae Dyfodol felly’n galw am sefydlu Asiantaeth i’r Gymraeg o fewn y Llywodraeth i roi arweiniad strategol a sicrhau cysondeb polisi. Byddai’r mudiad yn dymuno i Gomisiynydd y Gymraeg barhau i fod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoleiddio’r safonau iaith, yn ogystal â gweithredu fel Ymgynghorai Statudol i’r Gymraeg ym maes cynllunio gwlad a thref.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Rydym yn awyddus iawn i agor ac ehangu’r drafodaeth allweddol hon, a gwneud hynny’n rhagweithiol a chadarnhaol. Mae’n gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg, ac ni allwn fforddio golli’r cyfle i fabwysiadu’r egwyddorion a strwythurau sy’n hanfodol os ydym am weld yr iaith yn ffynnu.”

Un sylw ar “NEGES I’R PRIF WEINIDOG: CYNLLUNIO IEITHYDDOL YN HANFODOL I DWF Y GYMRAEG

  1. Hyd y gwelaf i un broblem fawr yw sicrhau bod cyflogwyr yn cydnabod a gwerthfawrogi y cyfraniad mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn gwneud i’w busnes Rwyf yn aml yn dod ar draws cyn fyfyrwyr addysg Gymraeg o gefndir di gymraeg yn digalonni am y diffyg cyfle i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle. Digwydd hyn mewn banciau, siopau, llefydd bwyta ayyb ble maent yyn darganfod wrth glywed fi’n siaradd mae siaradwr Cymraeg ydw i. Ar yr un pryd, wrth ofyn am wasaneath Gymraeg rwy’n clywed ‘sorry, we.ve tried but we can’t recruit people who speak Welsh. Mae rhywbeth o’i le yn rhywle.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *