DYFODOL Y GYMRAEG YN EI CHADARNLEOEDD: AI ‘ARFOR’ YDI’R ATEB?

Gyda Chyfrifiadau diweddar yn dangos y Gymraeg yn colli tir yn ei chadarnleoedd, allfudo ac ymfudo’n newid demograffeg cymunedau gwledig, ac ansicrwydd Brexit o’n blaenau, beth yw dyfodol y Fro Gymraeg? Dyma fydd y cwestiwn bydd yn cael ei ofyn yng Nghyfarfod Cyhoeddus Dyfodol i’r Iaith a gynhelir yn y Galeri, Caernarfon fore Sadwrn nesaf, Mai 26ain am 11.

Yn aml iawn, mae cwestiynau dyrys fel hyn yn galw am atebion radical, ac un ateb a awgrymwyd eisoes yw, ‘Arfor’, sef Awdurdod rhanbarthol newydd ar gyfer y gogledd a’r gorllewin (Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin). Awdurdod fyddai’n cynrychioli siroedd sy’n wynebu’r un heriau o safbwynt y Gymraeg, yr economi a diwylliant; ac a fyddai’n gallu gweithio’n strategol er budd ffyniant y rhanbarth a’r iaith Gymraeg.

Gydag ail-strwythuro llywodraethol ar yr agenda drachefn, mae’n amserol i ni groesawu Adam Price atom i drafod ei weledigaeth ar gyfer cynllun Arfor.

Ai Arfor ydi’r ateb? Dewch i’r Galeri ddydd Sadwrn nesaf i glywed, holi, a dod i’ch casgliadau. Croeso cynnes iawn i bawb

 

CYFARFOD CYHOEDDUS ABERYSTWYTH 24/04/18 – NEGES DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Bydd y corff, pan gaiff ei sefydlu, yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cynlluniau iaith ar sail egwyddorion cydnabyddedig cynllunio ieithyddol.  Dyna neges Cynog Dafis mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd Ebrill.

Er bod camau wedi’u cymryd ym maes hawliau unigolion dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi’n bwysig bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y cartref, yn y gymuned, ac ym myd gwaith.  Nid mater i ddeddfu yn ei gylch yw hyn, ond testun gweithredu cadarnhaol gan y llywodraeth ar lawr gwlad.

Mae angen ystyried sut gall siroedd gorllewin Cymru gyfuno i roi polisïau llesol i’r Gymraeg ar waith.  Byddai hyn yn cynnwys twf economaidd a chynllunio tai yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill.

Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran statws y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd, yr angen mawr yw cryfhau’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymuned ac mewn addysg.  Y tri maes yma yw’r conglfeini ar gyfer sicrhau twf yn niferoedd siaradwyr ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.