DYFODOL YN GALW AM ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD A MÔN

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Gynghorau Gwynedd a Môn i adolygu’r targed a nodir yn eu Cynllun Datblygu Lleol cyfredol i adeiladu 7,184 o gartrefi newydd yn yr ardal hyd at 2026.

Lluniwyd y Cynllun Datblygu yng nghyd-destun y disgwyliad i ddatblygu atomfa’r Wylfa. Yn sgil y cyhoeddiad na fydd y cynllun hwn yn bwrw ymlaen, cred y mudiad ei bod yn angenrheidiol, er lles y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, i adolygu targedau sydd bellach yn amherthnasol i anghenion y ddwy sir.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“O’r cychwyn, roddem yn grediniol bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn gosod targedau cwbl anaddas o safbwynt adeiladu tai newydd, ac yn sicr bellach, does dim cyfiawnhad dros barhau gyda fframwaith sydd nid yn unig yn gwbl anghynaladwy, ond sy’n bygwth y Gymraeg fel cyfrwng cymdeithasol yn ogystal.

Galwn ar y ddau Gyngor i adolygu’r Cynllun Datblygu ar fyrder, gan roi blaenoriaeth i anghenion economaidd ac ieithyddol lleol, a gosod pwyslais ar ynni cynaliadwy a chefnogi busnesau lleol.”

YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 6: DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â demograffeg y Gymraeg ac anghenion cynllunio. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 PWNC TRAFOD 6: DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO

 Dyma farn Dyfodol:

Demograffeg yw’r berthynas rhwng pobl a thiriogaeth. Mae’r pennawd yn cael ei ddefnyddio yma i gynnwys nifer o elfennau – economi, cartrefi, defnydd o dir, cynllunio gwlad a thref ac yn y blaen – mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Mae a wnelo’r adran yma â’r ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol gyffredin, yn bennaf yn y gorllewin ond hefyd mewn sawl man arall. Mae hwn yn faes heriol a chymhleth.

Cynigiwyd cysylltu ardaloedd y gorllewin wrth ei gilydd yn rhanbarth Arfor er mwyn mynd i’r afael â’u gwendid economaidd ac yn arbennig y gwaedlif o bobl ifainc dawnus, llawer iawn yn siaradwyr Cymraeg, sy’n eu gadael yn flynyddol – un o’r prif ffactorau yn nirywiad y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi arddel y cysyniad. Ein barn ni yw bod angen grymuso’r weledigaeth yma a’i gwneud hi’n gynhwysyn allweddol yn y strategaeth gyffredinol i ddatblygu Cymru’n wlad lwyddiannus a hyderus. Y bwriad fyddai i ranbarth Arfor gynnig cyfleoedd gyrfaol amrywiol a chyffrous, cyfle ac anogaeth i arloesi a mentro hefyd, fel bod pobl ifainc am greu dyfodol iddynt eu hunain o fewn y rhanbarth yma, drwy aros neu ddychwelyd neu symud i mewn. Dylai’r cyfan fod ynghlwm wrth fwriad i ddiogelu a chryfhau’r gymuned a chymunedau Cymraeg.

Byddai polisi cynllunio gwlad a thref a pholisi cartrefu yn adlewyrchu anghenion ac yn atgyfnerthu’r rhanbarth a’i chymunedau yn hytrach na buddiannau datblygwyr masnachol nerthol a’u gyriant tuag at y gor-ddarparu dall a niweidiol sy’n digwydd ar hyn o bryd.   

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR DDEMOGRAFFEG YR IAITH A / NEU MATERION CYNLLUNIO?

 

CYLLIDEB DDRAFFT 2020 – 21: YMATEB DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Llywodraeth, yn sgil y dyraniad ariannol ar gyfer 2020-21, i ddatgelu rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwariant ar y Gymraeg. Yn benodol, mae’r mudiad eisiau gwybod sut bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle yng ngwahanol gynlluniau’r Llywodraeth, ac yn enwedig:

  • Gofal plant: sut bydd y Llywodraeth yn paratoi hyfforddiant ieithyddol digonol i ddarparwyr?
  • Addysg bellach: yr un yw’r cwestiwn sef, sut bydd y Llywodraeth yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth ieithyddol ddigonol i fyfyrwyr fydd yn aros yng Nghymru a chyfrannu ar yr economi leol?

Dywedodd Heini Gruffudd:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am fanylion ariannol y meysydd hyn gan mai’r rhain fydd yn sefydlu sail gadarn i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd addysg, yn y gymuned a’r gweithle.”