CYSYLLTU DYFODOL Y BLANED A DYFODOL EIN CYMUNEDAU

Yn dilyn yr adroddiadau fod cwmni a leolir yn adeilad y Shard yn Llundain wedi prynu ffermydd yn Sir Gaerfyrddin i’w troi’n goedwigoedd er mwyn cipio carbon, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu polisïau amgylcheddol cynhwysfawr sydd, yn unol ag egwyddorion Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, yn gwarchod cymunedau’n ogystal â’r blaned.

Ar ran Dyfodol, dywedodd Cynog Dafis:

“Llosgi tanwydd ffosiledig heb os nag oni bai sy’n bennaf gyfrifol am gynhesu byd-eang, ac wrth dderbyn bod angen mwy o fforestydd i gadw carbon, mae’n sefyllfa druenus bod cwmnïau mawr yn ceisio gwyrdd-olchi’r dinistr hwn drwy hawlio grantiau a phroffid ar draul cymunedau Cymreig, eu diwylliant a’u hasedau.

Byddwn yn galw felly ar i’r Llywodraeth gofio’r egwyddorion a osodir yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a derbyn bod cynaladwyedd yn seiliedig ar ystyriaeth o’r amgylchedd, cymunedau a rôl allweddol yr economi. Dylid llunio polisïau sy’n gwarchod ffyniant cymunedau yn hytrach na gwerthu asedau lleol i’r sawl sydd, drwy eu trachwant yn bennaf gyfrifol am sefyllfa ansicr y blaned.

Mynnwn fod y Llywodraeth yn llunio polisïau sy’n wirioneddol gynaliadwy, gan weithio law yn llaw â chymunedau gwledig i warchod eu perchnogaeth o’r tir a sicrhau defnydd ohono sy’n dal carbon neu’n garbon-niwtral. Mae yng Nghymru gyfoeth o arbenigwyr Ecoamaeth, sydd yr un mor wybodus am anghenion y blaned â chyfraniad y sawl sy’n cynhyrchu bwyd ac anghenion yr economi leol. Dyma’r math o arbenigedd eang a chytbwys sydd ei angen er mwyn llunio polisi ac nid rhygnu ar hyd yr hen drywydd trychinebus o roi bri i fuddiannau’r sawl sy’n bennaf gyfrifol am y difrod.”

EISTEDDFOD AMGEN 2021

Ail Gartrefi a’r Gymraeg

Gyda’r argyfwng tai yn hawlio sylw ledled Cymru ac yn mynnu atebion gan ein gwleidyddion, dyma gyfle i glywed Cynog Dafis o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith yn holi’r academydd Simon Brooks am ei Adroddiad ar ail gartrefi a gyflwynwyd i’r Llywodraeth yn gynharach eleni.

Beth yw’r goblygiadau i’n cymunedau a pholisïau’r dyfodol?

Sesiwn yng ngofal Dyfodol i’r Iaith, Dydd Gwener 06/08/2021 am 16:00. Ymunwch yma.

 

RHAGLEN WEITHREDU CYMRAEG 2050: YMATEB DYFODOL

Ymddengys bod digon o ewyllys da tuag at y Gymraeg yn y Senedd, ond erys yr her sicrhau bod geiriau teg yn troi’n weithredu cadarn.Yn ein barn ni mae’r Rhaglen newydd ar gyfer Gweithredu Cymraeg 2050 yn codi llu o gwestiynau ac yn pwysleisio’r angen i fwrw ymlaen ar fyrder. Mae nifer o’r amcanion a’r targedau’n gyfarwydd iawn ers 2017 ac yn amlygu mesur arswydus o oedi. Mae’r gwaith yn gymhleth ac mae angen ei fapio’n ofalus, gam fesul cam, gan bennu cyllid a chyfrifoldeb ar gyfer pob elfen o’r gwaith. Yn hyn o beth, rhaid datgan drachefn yr angen am Awdurdod rymus i’r Gymraeg er mwyn gosod cyfeiriad a chyd-lynu cyfrifoldebau a chyfraniad pob adran, asiantaeth a phartner tuag at yr agenda aruthrol hwn.

Dywed Gweinidog y Gymraeg ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth newydd ac mai dyna sydd i’w gyfrif am y diffyg manylion. Pwysleisiwn ninnau drachefn y byddai Awdurdod Iaith yn caniatáu datblygiad polisi a gweithredu cyson a di-dor. Dyna beth sydd ar goll a beth sydd wir ei angen.