Eisteddfod Ynys Môn, 2017

Diolch o galon i bawb a ddaeth draw am sgwrs, ac a fanteisiodd ar ein cyflwyniadau, sgyrsiau ac adloniant yn ystod yr Eisteddfod ym Modedern. Bu’r Eisteddfod hefyd yn gyfle i ddathlu ein pumed pen-blwydd – esgus am deisen, ac edrych yn ôl ar ein llwyddiannau.

Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau gydag arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd, yn edrych ar ffyrdd a chyfryngau i hyrwyddo’r Gymraeg. Bu Menna Baines yn trafod y wasg Gymraeg a’i rôl gyda Menter Iaith Bangor; cafwyd cyflwyniad gan Osian Roberts ar bwysigrwydd chwaraeon fel cyfrwng anffurfiol i hyrwyddo defnydd naturiol o’r Gymraeg; Cefin Roberts wedyn yn sôn am hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol drwy ganu; a’r Athro Enlli Thomas yn rhannu canfyddiadau ei hymchwil i’r Gymraeg mewn addysg. Roedd y cyflwyniadau oll yn ddifyr a grymus, ac yn atgoffâd o bwysigrwydd defnydd y Gymraeg ar draws amryfal sefyllfaoedd.

Cafwyd yn ogystal rhaglen gyffrous o gerddoriaeth; Gwilym Bowen Rhys, Ynyr Llwyd, Gwyneth Glyn a Thwm Morys, Glain Rhys a Meinir Gwilym. Diolch i bawb, yn siaradwyr a chantorion, am ei gwneud yn Eisteddfod mor ddifyr i ni ar stondin Dyfodol.

Cynllunio a’r Gymraeg oedd testun ein prif gyflwyniad ym Mhabell y Cymdeithasau eleni, gyda Huw Prys Jones yn amlinellu ei asesiad ieithyddol o Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, ac Emyr Lewis yn cadeirio. Bu hon yn sesiwn lwyddiannus dros ben, gyda phabell lawn, a chwestiynau treiddgar o’r llawr. Ein bwriad dros y misoedd nesaf fydd adeiladu ar ein hymroddiad i’r maes cymhleth ac allweddol hwn, a byddwn yn eich diweddaru’n fuan o’r camau nesaf.

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg yn ystod yr Eisteddfod, ac, yn dilyn y lansiad, cawsom sgwrs a’r Gweinidog i gadarnhau y byddwn yn cwrdd ag ef yn ystod mis Medi i rannu ein sylwadau llawn ar y ddogfen. Yn amlwg, ar ôl gwyntyllu manwl, byddwn yn rhannu ein barn gyda chwithau, a hynny cyn gynted â phosib.

Gobeithio i chwithau fwynhau’r Eisteddfod, ac y cewch gyfle i wneud y gorau o’r hyn sy’n weddill o’r haf. Yn sicr, bydd digon i’w wneud dros y misoedd nesaf…

 

Digwyddiadau’r Eisteddfod 2017

Dewch draw i’n stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni; Rhaglen lawn o sgyrsiau ac adloniant!

DYDD LLUN AWST 7 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r wasg ac yn y gymuned – MENNA BAINES 3 y.p:  GWILYM BOWEN RHYS

DYDD MAWRTH AWST 8 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy Chwaraeon – OSIAN ROBERTS AC IAN GWYN HUGHES 3 y.p. YNYR LLWYD

DYDD MERCHER AWST 9 am 11 y.b. yn Mhabell y Cymdeithasau 1: Cynllunio a’r Gymraeg – cyflwyniad gan HUW PRYS JONES 3 y.p: TWM MORYS A GWYNETH GLYN

DYDD IAU AWST 10 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg ar gan – CEFIN ROBERTS  3 y.p.:GLAIN RHYS

DYDD GWENER AWST 11 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy awgrymiadau o du ymchwil –  yr ATHRO ENLLI THOMAS 3 y.p.: MEINIR GWILYM

 

GALW AM OEDI ARIANNU YSGOLION OHERWYDD PERYGL I DWF ADDYSG GYMRAEG

Caiff datblygiad addysg Gymraeg ei rwystro tan 2024 heb obaith i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o 30% o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.  Dyna ofn Dyfodol i’r Iaith wrth i Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae ceisiadau am gyllid y Llywodraeth i ddatblygu ysgolion i fod i’w cyflwyno’n fuan, ac awdurdodau am gyflwyno’u ceisiadau erbyn diwedd Gorffennaf, a chael dyfarniad erbyn yr hydref.  Cyllid ail rownd Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif yw hyn, sy’n rhoi arian i ddatblygu ysgolion o 2019-2024.  Mae £600 miliwn ar gael gan y Llywodraeth ac mae disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu’r un swm.

Pryder Dyfodol i’r Iaith yw bod y cyllid hwn i gael ei ddosbarthu cyn i lawer o Gynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg awdurdodau lleol gael eu derbyn gan y Llywodraeth.  Pryder arall yw nad yw hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth, a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae lle mawr i ofni nad yw gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn cydweithio.  Mae’n glir i ni fod awdurdodau lleol yn paratoi eu cynlluniau heb fod eu Cynlluniau Addysg Gymraeg wedi cael eu derbyn, ac yn amlwg heb iddynt gael unrhyw gyfle i ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

“Canlyniad hyn yw y bydd ceisiadau am arian yn cael eu cyflwyno heb fod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cynghorau.  Yn rownd cyntaf Cyllid Ysgolion yr 21ain, gwariodd rhai cynghorau y nesaf peth i ddim ar addysg Gymraeg.  Gall hyn ddigwydd eto.”

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i oedi proses gyllido ail rownd Ysgolion 21ain ganrif, ac yn gofyn i’r broses hon gael ei chlymu wrth Gynlluniau Addysg Gymraeg y Siroedd ac wrth Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”