EIN HANES EIN HIAITH – CYFLWYNIAD EISTEDDFOD DYFODOL I’R IAITH

Mae’n falch gennym gyhoeddi ein cyflwyniad Eisteddfod eleni, ac rydym wrth ein boddau bod Dr Elin Jones wedi cytuno i drafod y berthynas gyfoethog rhwng Cymru a’i hiaith o bersbectif y gorffennol a chyda golwg at y dyfodol. Cynhelir y digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 1yp, dydd Mercher, Awst 3ydd. Nodwch y dyddiad – ac edrychwn ymlaen at ycyflwyniad!

“Yn dilyn llwyddiant ei llyfr arloesol, Hanes yn y Tir, fe fydd y Dr Elin Jones yn trafod ei chanfyddiadau am le canolog y Gymraeg yn hanes Cymru. Dengys ei llyfr sut y mae hanes Cymru wedi ffurfio ei thirwedd, a bydd ei darlith yn amlinellu sut mae’n hiaith hefyd wedi ei phlethu i’n hanes. O’n henwau lleoedd i’n henwau personol, o gysyniadau allweddol i ddyddiau’r wythnos, mae’n hanes yn yr iaith a siaradwn, y gorffennol yn ein geiriau – a dyfodol yr iaith honno yn ein dwylo ni.”

Barn Dyfodol i’r Iaith ar Gyllideb Llywodraeth Cymru – colli cyfle euraidd

Colli cyfle euraidd – dyna farn Dyfodol i’r Iaith ar Gyllideb Llywodraeth Cymru. A’r Llywodraeth yn gyfrifol am wario £18 biliwn yn y flwyddyn i ddod, mae’r gwariant ar brosiectau i adfywio’r Gymraeg fel pe baent yn drychinebus o brin o’r angen.

Mae Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi galw am wariant cyfalaf o £200 miliwn i’w rannu rhwng pum o siroedd Cymru i ddatrys argyfwng tai preswyl ac ail gartrefi. Nid yw cynigion presennol y Llywodraeth i ariannu Arfor ac i adeiladu tai cymdeithasol yn dod yn agos at yr angen.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi gofyn am roi blaenoriaeth i hyfforddi athrawon ac i ddysgu’r iaith i athrawon.  Nid oes arwydd, medd Dyfodol i’r Iaith, fod y gyllideb newydd yn mynd i roi’r hwb cwbl angenrheidiol yn y maes yma.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’r angen am drawsnewid y farchnad dai yn ein cymunedau mwy Cymraeg wedi bod yn glir ers tro, ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn hyn.  Bydd y gyllideb hon yn anffodus yn parhau’r argyfwng.”

“Mae’r Llywodraeth hefyd yn gwybod bod argyfwng ar ddigwydd o ran darparu staff â sgiliau iaith digonol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.  Cafodd IRALE yng Ngwlad y Basgiaid gyllideb o £25 miliwn y flwyddyn i ddysgu’r iaith i athrawon, a dysgwyd yr iaith i ryw 1,000 o athrawon y flwyddyn mewn cyrsiau amser llawn dros chwarter canrif.

“Os ydyn ni o ddifri am drawsnewid yr iaith yn ysgolion Cymru, mae’n rhaid cael rhaglen gyfatebol i un Gwlad y Basgiaid.”