Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Dyfodol i’r Iaith ar fore Sadwrn, 15fed Tachwedd am 10.30yb yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth.
Archifau Categori: Cynllunio Ieithyddol
Cyrraedd Pum Nod
Mae pum cam o bwys i’r iaith wedi’u cymryd eleni, yn ôl Dyfodol i’r Iaith. Bu Dyfodol i’r Iaith yn cynnal trafodaethau mewn sawl maes, ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, yn ôl y Cadeirydd, Heini Gruffudd.
Y pum llwyddiant yw:
- Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
- Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
- Cyhoeddi adnodd Cyngor Gofal Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd gwasanaethau gofal
- Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn.”
“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”
“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”
“Rydyn ni yn ystod y mis nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.”
Y Gymraeg a Chwaraeon
GALW AM YMGYRCH I GYSYLLTU CHWARAEON A’R GYMRAEG Wrth longyfarch Tîm Cymru ar eu campau yng Ngemau’r Gymanwlad, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’n wych clywed rhai o fabolgampwyr Cymru’n siarad Cymraeg ar y radio a’r teledu, gan ddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yn y byd chwaraeon.” “Mae’r Urdd trwy drefnu Chwaraeon Cymru wedi rhoi arweiniad cadarn wrth ddod â’r iaith i ganol byd chwaraeon. “Yr angen yn awr yw gwneud yn siŵr bod chwaraeon, y mabolgampau a gweithgareddau nofio a hamdden ar gael trwy’r Gymraeg ar lawr gwlad ym mhob sir yng Nghymru. “Byddai’n dda i’r Safonau Iaith a gaiff eu trafod gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd osod targedau i Awdurdodau Lleol o ran cyflwyno gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc. “Mae angen hefyd am ymgyrch hyrwyddo’r iaith ymysg clybiau chwaraeon. Mae rhai esiamplau gwych, fel clwb rygbi Crymych, sy’n cynnal 11 o dimau rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg. “Mae rhai sefydliadau cenedlaethol, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwefan a chyhoeddiadau, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig delwedd Saesneg iawn. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Comisiynydd Iaith a’r Prif Weinidog yn cydweithio i greu rhaglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd nesaf.”