PLEIDLAIS I ADAEL Y GYMUNED EWROPEAIDD YN DESTUN PRYDER MEWN PERTHYNAS A’R IAITH

Mae Dyfodol yn pryderu am yr effaith y gallasai pleidlais dros adael y Gymuned Ewropeaidd ei chael ar y Gymraeg.

Mae’r Gymraeg yn elwa llawer o gydweithio rhwng cefnogwyr ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop.

Bu Senedd Ewrop yn llwyfan pwysig ar gyfer cydweithio gwleidyddol er lles y Gymraeg ac ieithoedd eraill fel y profa llwyddiannau diweddar gwleidyddion o Gymru wrth gynyddu statws y Gymraeg oddi mewn i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ei hun.

Mae Cyngor Ewrop wedi dangos arweiniad drwy hyrwyddo Siarter Ewrop dros Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol sy’n creu dyletswyddau dan gyfraith ryngwladol ar y Deyrnas Gyfunol i hyrwyddo a diogelu y Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae cydweithio agosach rhwng yr Undeb a Chyngor Ewrop yn digwydd ac mae hyn yn cynnig posibiliadau cyffrous o ran cynyddu eto fyth statws y Gymraeg.

Os bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael y Gymuned Ewropeaidd mae perygl i’r posibiliadau hynny fynd ar goll.

Gan nad oes darlun eglur o beth fydd natur y berthynas rhwng y DG a’r UE ar ôl pleidlais i adael mae’r ansicrwydd ym maes yr iaith fel ym maes yr economi yn bryder mawr.

 

CYHOEDDI CANLYNIADAU ETHOLIAD: DYFODOL YN GALW AM FWY O YSTYRIAETH I’R GYMRAEG

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad bore Gwener ddiwethaf, mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ynglŷn â’r disgwyliadau mewn perthynas â’r Gymraeg ar achlysuron o’r math.

Wrth i’r canlyniadau ddod i mewn, daeth yn glir fod amrywiaeth sylweddol yn y pwyslais a roddir i’r Gymraeg ac yn safon y Gymraeg a ddefnyddiwyd o etholaeth i etholaeth. Er ei bod yn glodwiw clywed dysgwyr yn defnyddio’r iaith, cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti.

Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn, ac mae Dyfodol wedi holi’r Comisiynydd ynglŷn â pha safonau iaith sy’n berthnasol i gyhoeddi etholiadau. Maent hefyd wedi pwyso ar i’r Comisiynydd lunio canllawiau clir, er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol.

DYFODOL I’R IAITH YN PWYSO AM FFRAMWAITH ASESU GADARN I’R GYMRAEG YM MAES CYNLLUNIO

Mae angen creu fframwaith cadarn a safonol er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg yn y maes cynllunio.

Dyna gasgliad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn pasio’r Bil Cynllunio newydd y llynedd. Medd Dyfodol i’r Iaith fod rhaid cael fframwaith sy’n cynnig methodoleg gydnabyddedig, yn seiliedig ar arbenigedd ieithyddol a lleol, yn ogystal â chynllunwyr gwlad a thref.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi llunio sylwadau ar ganllawiau’r Nodyn Technegol 20: Cynllunio a’r Gymraeg, a ddiweddarwyd i gyd-fynd â’r gofynion newydd mewn perthynas â’r Gymraeg.

Dywedodd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol,

“Mae sefydlu methodoleg safonol yn allweddol os am adeiladu ar enillion y Bil Cynllunio. Byddwn yn tynnu sylw’r Llywodraeth at yr ymarfer da sy’n datblygu eisoes mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwynedd a Môn.

Yn yr achos hwn, cytunwyd i ail-gloriannu’r dystiolaeth o ran effaith y Gymraeg. Bydd Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn (sy’n cynnwys cynrychiolaeth o Ddyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai) yn comisiynu asesiad arbenigol, annibynnol i’w chyflwyno fel rhan o’r broses ail-gloriannu. Gobeithiwn bydd y broses hon, a’r cydweithio’n sefydlu patrwm ac ymarfer da i’w mabwysiadu ar draws Gymru gyfan.”