Y CWRICWLWM NEWYDD YN ANELU SAETH AT GALON ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru. Dywed y cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.

 

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”

 

“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”

 

DYFODOL YN MYNNU BOD CYNLLUN GOFAL PLANT YN CEFNOGI’R GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i bwysleisio bod rhaid i’r cynllun newydd o gynnig 30 awr o ofal plant gefnogi nod y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Er bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol mewn egwyddor, mae’n rhaid iddo roi pwyslais digonol ar wasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun amcan y Llywodraeth ei hun i gynyddu’r nifer siaradwyr.

Bydd cynnig gofal plant Saesneg i’r rhan fwyaf o blant cyn-ysgol yn tanseilio addysg Gymraeg ac yn milwrio yn erbyn y nod o filiwn o siaradwyr. Mynnwn sicrwydd gan y Gweinidog na fydd hwn yn enghraifft arall o un adran o’r Llywodraeth yn gweithredu heb roi sylw i amcanion adrannau eraill.”

 

 

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN GWASANAETH AC EGWYDDOR CANOLFANNAU IAITH GWYNEDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan gofid ynglŷn â thoriadau posib i Ganolfannau Iaith Gwynedd. Dyma’r gwasanaeth ar gyfer disgyblion Cynradd newydd i’r sir sy’n eu trochi yn y Gymraeg er mwyn eu paratoi ar gyfer addysg Gymraeg a hwyluso eu cyflwyniad i fywyd cymunedol Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Byddai unrhyw gwtogi ar y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn ffwlbri noeth. Mae’r Canolfannau hyn eisoes wedi profi eu gwerth a’u llwyddiant. Maent hefyd yn crisialu egwyddor sy’n greiddiol i lwyddiant Strategaeth y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef bod rhaid i’r Gymraeg fod yn hygyrch i bawb os yw am ffynnu.

Byddwn yn galw felly ar i’r Llywodraeth a Chyngor Gwynedd gydnabod a chynnal  gwaith aruthrol y Canolfannau hyn; eu dyrchafu’n wir, fel esiampl ddisglair o’r hyn y mae modd ac y dylid ei gyflawni er budd y Gymraeg.”