DYFODOL I’R IAITH YN GALW AM SYLW HANFODOL I GYNLLUNIO IEITHYDDOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at drafod gyda’r Llywodraeth y newidiadau posibl  yn rôl y Comisiynydd iaith a’r posibiliadau ar gyfer sefydlu Asiantaeth Iaith fewnol yn rhan o’r Llywodraeth.

Mae Dyfodol yr Iaith am weld y Llywodraeth, o dan ba drefn bynnag, yn rhoi blaenoriaeth i bedwar maes sylfaenol cynllunio iaith:

* y cartref: cynyddu nifer y cartrefi Cymraeg o 7% i 10% o fewn 5 mlynedd gyda gofal meithrin cyfrwng Cymraeg yn ategu hyn fel rhan greiddiol o’r gymuned leol

* y gymuned: creu rhaglen o hyrwyddo cymunedau Cymraeg, gan gynnwys creu gwahanol fodelau o Ganolfannau Cymraeg

* Cymreigio’r gweithle: creu cwotâu at gyfer cynyddu nifer gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn llywodraeth leol, i gychwyn.
* Addysg Gymraeg: sicrhau twf cyflym addysg Gymraeg

Mae Dyfodol yr Iaith am weld £5 miliwn cychwynnol yn cael ei roi i ddatblygu polisïau a gweithgareddau ym mhob un o’r meysydd hyn.

Mae Dyfodol yr Iaith hefyd am weld cyrff sydd eisoes wedi cael dylanwad, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion yn parhau i allu gweithredu’n greadigol ac effeithiol.

Y CWRICWLWM NEWYDD YN ANELU SAETH AT GALON ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru. Dywed y cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.

 

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”

 

“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”

 

DYFODOL YN MYNNU BOD CYNLLUN GOFAL PLANT YN CEFNOGI’R GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i bwysleisio bod rhaid i’r cynllun newydd o gynnig 30 awr o ofal plant gefnogi nod y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Er bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol mewn egwyddor, mae’n rhaid iddo roi pwyslais digonol ar wasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun amcan y Llywodraeth ei hun i gynyddu’r nifer siaradwyr.

Bydd cynnig gofal plant Saesneg i’r rhan fwyaf o blant cyn-ysgol yn tanseilio addysg Gymraeg ac yn milwrio yn erbyn y nod o filiwn o siaradwyr. Mynnwn sicrwydd gan y Gweinidog na fydd hwn yn enghraifft arall o un adran o’r Llywodraeth yn gweithredu heb roi sylw i amcanion adrannau eraill.”