Dwy Sianel Radio

CROESAWU’R POSIBILRWYDD O DDWY SIANEL RADIO

Mae Dyfodol yr Iaith yn croesawu datganiad Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, y gall hi fod yn bosibl cael dwy sianel radio Gymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Fe wnaethon ni gyflwyno tystiolaeth i’r BBC yn galw am ddwy sianel – Radio Pawb a Radio Pop.  Y nod yw cael un sianel draddodiadol, ac un sianel i bobl ifanc.”

“Rydyn ni wrth ein bodd bod rhai o raglenni newydd Radio Cymru’n boblogaidd, ac mae Tomo’n amlwg wedi gwneud ei farc yn sydyn iawn a rhifau gwrando Radio Cymru’n codi.”

“Yr hyn sy’n anodd ar hyn o bryd yw bodloni pob math o gynulleidfa yr un pryd.  Yn y Saesneg mae modd dewis o blith nifer fawr o sianeli, a bydd yn wych i wrandawyr Cymraeg gael siawns i ddewis y sianel sy’n apelio fwya iddyn nhw.”

“Mae’n dda deall y bydd datblygiadau technegol yn ei gwneud yn bosibl cael dwy sianel Gymraeg, naill ai o dan ofal y BBC neu o dan ofal darlledwyr annibynnol.”

Her Calan Mai i Radio Cymru

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gosod her i Radio Cymru ar Galan Mai i wella’r gwasanaeth Cymraeg.

Mewn llythyr at Bennaeth Rhaglenni Cymraeg a Golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd a Betsan Powys, mae’r mudiad wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau am y gwasanaeth presennol a sut y gellir darparu ar gyfer y dyfodol.

Derbyniodd y mudiad nifer o gwynion a phryderon gan ei haelodau am safon iaith y cyflwynwyr a’r gormodedd o ganeuon Saesneg sydd ar Radio Cymru. Mae Dyfodol, felly, yn holi pryd y bydd ail wasanaeth Cymraeg ar unrhyw gyfrwng i geisio goresgyn y problemau presennol. Parhau i ddarllen