DYFODOL YN GALW AR Y GWEINIDOG I YMYRRYD I WARCHOD SWYDDI ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, i ymyrryd er mwyn gwarchod swyddi allweddol yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.

Mae Dyfodol ar ddeall bod y Brifysgol yn bwriadu cwtogi staff dwyieithog yr Ysgol. Byddai hyn yn ergyd i’r bwriad i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny mewn cyfnod allweddol, pan mae’r angen am athrawon sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn argyfyngus.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Os ydym o ddifri ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, yna’n amlwg, mae hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg ar draws holl bynciau’r cwricwlwm yn allweddol er mwyn cyrraedd y targed. Dylem gynyddu ac nid cwtogi’r ddarpariaeth. Gan fod y toriadau hyn yn tanseilio nod strategol y Llywodraeth, rydym wedi cysylltu â’r Gweinidog i ofyn iddi ymyrryd ar fyrder yn yr achos hwn.”

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN Y GYMRAEG FEL PWNC ACADEMAIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi gofid ynglŷn â dibrisio gwerth y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Yn sgil pwysau i gyflwyno arbedion, daeth cynigion i gyfuno Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd gydag adrannau ieithoedd eraill, ac ym Mangor i gwtogi staff ar lefel Athro. Mae Dyfodol wedi cysylltu ag Is-Gangellorion y ddau sefydliad i bwyso arnynt wyrdroi’r cynigion, a hynny’n enw statws y Gymraeg fel pwnc a chyfrwng cenedlaethol.

Dywed Eifion Lloyd-Jones o’r mudiad; “Mae’r cynigion byrdymor hyn yn anfon neges hirdymor niweidiol mewn perthynas ag ymrwymiad hanesyddol y sefydliadau i’r iaith Gymraeg.”

“Rhaid gwarchod annibyniaeth ac arbenigrwydd y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion y genedl, gan ystyried yr un pryd arwyddocâd y fath fygythiadau i statws a gwerth y Gymraeg ar lefel ehangach – fel cyfrwng cenedlaethol creadigol a chymunedol.”

“Rydym yn pwyso ar y sefydliadau allweddol hyn i gydnabod ac ymgymryd â’u rôl i gyfrannu at ffyniant y Gymraeg.”