Galw am gefnogi myfyrwyr o Gymru yng Nghymru

Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi myfyrwyr o Gymru sydd am astudio yng Nghymru, ond peidio â rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sydd am astudio mewn gwledydd eraill.
Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, mewn ymateb i adroddiad Grŵp Cyfarwyddwyr Ariannol Addysg Uwch Cymru ar ffioedd addysg uwch.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Byddai rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sy’n aros yng Nghymru’n gam tuag at ddatrys nifer o faterion:
•   Byddai’n rhoi hwb sylweddol i ddatblygu cyrsiau Cymraeg addysg uwch, a chynlluniau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
•   Byddai’n lliniaru peth ar allfudo o Gymru, ac yn cadw’n doniau gorau yng Nghymru
•   Bydd hyn yn ei dro’n rhoi hwb i economi cynhenid Cymru.”

Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Un o fanteision mawr arall hyn yw y bydd yn rhyddhau digon o gyllid i Lywodraeth Cymru roi grant llawn i fyfyrwyr o gefndir difreintiedig i astudio yng Nghymru a bydd hyn yn gwneud addysg uwch yng Nghymru’n llawer mwy cynhwysol.”

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o’r Alban yn cael addysg uwch am ddim yn yr Alban, ac mae’r Alban yn rhoi addysg am ddim hefyd i fyfyrwyr o’r  Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi grant o hyd at £5,425 i bob myfyriwr o Gymru sy’n astudio yng Nghymru ac yn Lloegr.