DYFODOL YN BEIRNIADU RHAGLEN “LIPA’R” LLYWODRAETH AM WEITHREDU IAITH.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan anniddigrwydd gyda Rhaglen Weithredu Cymraeg y Llywodraeth ar gyfer y cyfnod 2021-22. Gan mai’r nod yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu ei defnydd, yna dywed y mudiad bod y ddogfen hon yn gwbl annigonol: yn rhy brin o hanfodion megis gweledigaeth, manylion a chyllid. Yng ngeiriau Cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd:

“Dyma Raglen Waith sydd fel petai’n ceisio osgoi gweithio ac sy’n dangos diffyg uchelgais affwysol. Dro ar ôl tro, ailadroddir y bwriad i ‘barhau’ i weithredu, ond heb fawr o esboniad sut y bydd hyn yn arwain at ganlyniadau allweddol megis trosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref a chynyddu ei defnydd yn y gymuned a’r gweithle.

Yn yr un modd, gresyn yw nodi ymateb llugoer i anghenion addysg Gymraeg: Gohirio Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg newydd am flwyddyn arall a methu adnabod y cyfle yn sgil argyfwng swyddi Covid i gynyddu’r sector addysg trwy recriwtio a hyfforddi mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg.

Mae sefyllfa’r Gymraeg yn galw am fwy o ymrwymiad na hyn, am weledigaeth strategol a chamau gweithredu pendant. Yn wir, gellid dadlau fod y ddogfen lipa hon yn sarhad ar gefnogwyr y Gymraeg.”

DYFODOL YN HERIO CYNLLUN ARALL I DDATBLYGU PENTREF GWYLIAU

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan amheuaeth ynglŷn â chynllun arall i ddatblygu pentref gwyliau sylweddol yn y gogledd-orllewin. Credai’r mudiad bod y datblygiad newydd ar gyfer hen safle Octel ger Amlwch yn fygythiad nid yn unig i’r iaith Gymraeg, ond i hyfywedd ac amrywiaeth yr economi leol.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Galwn ar Gyngor Môn ymateb yn wyliadwrus i’r cais hwn, ac ystyried yn ddwys blaenoriaethau’r iaith a’r gymuned. Y brif broblem, yn ein barn ni, gyda datblygiadau twristiaeth o’r fath yw’r diffyg budd i’r gymuned leol.

Dylai mentrau twristiaeth o’r math fod mewn dwylo lleol gyda’r elw a wneir yn cael ei amlgyfeiririo er mwyn creu economi leol sy’n sy’n wydn ac amrywiol. Yn y pendraw, ac o ddatblygu’r sector yn ofalus, byddai hyn yn fodd i osgoi ‘r hyn a wrthwynebwn, sef economi sy’n or-ddibynol ar dwristiaeth.

Yn anffodus, ymddengys y byddai’r cynllun hwn yn ecsbloetio’r economi leol a thanseilio ei diwylliant drwy sugno’r elw o ddwylo’r gymuned. “