DYFODOL YN GALW AM GYLLID DIGONOL I LYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU

Mae Dyfodol wedi ysgrifennu at Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn galw am gyllid digonol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r dadleuon:

Gwrthwynebwn unrhyw doriadau pellach fyddo’n bygwth dyfodol sefydliad sydd mor allweddol i hanes, diwylliant ac yn wir, hunaniaeth y genedl.

Mewn cyfnod lle cydnabyddir grym a gwerth hanes a diwylliant a phan geir ymdrechion taer ac angenrheidiol i adfer ac unioni gwerth diwylliannau a safbwyntiau a wthiwyd i’r ymylon, credwn y daw’r cysyniad o Lyfrgell Genedlaethol sy’n gwarchod holl ddiwylliannau Cymru yn bwysicach fyth i’n hymwybyddiaeth o bwy ydym a’n lle yn y byd.

Fel mudiad sy’n lobïo er lles yr iaith Gymraeg, yna’n amlwg y llên, hanes a’r creiriau sy’n ymwneud â’r iaith honno fyddo agosaf at ein calonnau a’r hyn a ddymunwn eu cadw a’u dehongli ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn achos y Llyfrgell Genedlaethol, rhaid cydnabod yn ogystal bod unrhyw fygythiad i’r sefydliad yn fygythiad nid yn unig i hanes a diwylliant yr iaith Gymraeg ond i holl ddiwylliant a diwylliannau Cymru.

Mwy yn hytrach na llai o staff ac adnoddau fydd angen os yw’r Llyfrgell am gyflawni ei swyddogaeth allweddol yn gytbwys a chynhwysol. Nodwn a gresynwn at yr arbenigedd a gollir yn sgil y diswyddiadau, yn ogystal â cholled swyddi o fewn sefydliad a arferai roi bri ar y Gymraeg fel iaith gwaith.

Ni allwn weld unrhyw gyfiawnhad dros y fath niwed a byddwn yn falch iawn o dderbyn eich sylwadau ar y sefyllfa drwblus hon,