GALW AM GYNYDDU ARIAN I DDYSGU’R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Medd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym yn bryderus yn dilyn sylwadau Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn y Senedd, 28 Ionawr.

“Mae Eluned Morgan fel pe bai’n cwestiynu gwerth dysgu’r Gymraeg yn gymunedol i ddysgwyr. Mae angen dathlu bod 12,680 yn dysgu’r Gymraeg yn gymunedol o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol ledled Cymru.

“Mae angen cryfhau darpariaeth gymunedol dysgu’r Gymraeg, a byddai’n dda gweld y Llywodraeth yn buddsoddi yn y maes yma fel y gwna Gwlad y Basgiaid.

“O ran cynllunio tymor hir, mae angen treblu’r gwariant ar ddysgu’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, ond am y tro, pwyswn ar y Llywodraeth i gadw a chynyddu’r gwariant yn nhermau arian real.”

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd, 28 Ionawr 2020:

“Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw’n cael £13 miliwn ac maen nhw’n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae’n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw’n gwario’r arian yna yn gywir.”

DYSGU HANES CYMRU: Y LLYWODRAETH YN COLLI CYFLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi eu siom o ddeall bod y Llywodraeth wedi gwrthod un o argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â dysgu hanes Cymru fel rhan o’r Cwricwlwm newydd.

Dywed Wyn Thomas ar ran y mudiad:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddysgu corff cyffredin o wybodaeth i holl ddisgyblion Cymru sydd yn astudio hanes. Collwyd cyfle di-gost i danlinellu lle creiddiol yr iaith Gymraeg yn hanes Cymru.

“Yn ei dro, wrth gwrs, byddai sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Y GYMRAEG YN HAEDDU GWELL: DYFODOL I’R IAITH YN GALW AM ADOLYGIAD CYLLID

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gyllideb y Llywodraeth. Daeth yn amlwg na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Gymraeg yn ystod 2020-21, fel y nodwyd ym mhapur Gweinidog y Gymraeg.  Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod hyn yn brin iawn o’r hyn sy’n angenrheidiol i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

‘Er bod papur y Gweinidog yn ymdrin â nifer o feysydd gweithredu hanfodol, mae’r diffyg cyllid ychwanegol yn golygu y byddwn yn sefyll yn yr unfan neu’n syrthio’n ôl. Mae’r targedau ieithyddol yn galw am gynllunio gofalus a buddsoddiad hirdymor, ond yn hytrach na hynny, erys y Gymraeg, fe ymddengys, yn fater ymylol y mae modd ei hesgeuluso.

Bydd y Llywodraeth yn fuan yn penodi arbenigwr iaith i lywio rhaglen cynllunio iaith y Llywodraeth ac rydyn ni’n galw ar bwy bynnag a benodir i gynnal arolwg anghenion ar frys gan nodi’r cyllid fydd ei angen i fynd i’r afael â’r anghenion.

Ein barn ni yw bod rhaid rhoi blaenoriaeth i ddysgu’r Gymraeg mewn gweithleoedd – yn enwedig ym maes gofal plant, addysg a llywodraeth leol.  Yna mae’n rhaid cael rhaglen uchelgeisiol o brosiectau cymunedol i’w gwneud yn haws i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn eu gwahanol ardaloedd.

Mae’n bryder i ni hefyd nad oes arian cyfalaf ar gael i’r Gymraeg.  Mae angen rhoi blaenoriaeth hefyd i raglen o hyrwyddo Canolfannau Cymraeg, a does dim modd gwneud hyn heb gymorth cyfalaf.’

Bydd y mudiad eleni’n pwyso am gyllid digonol i raglen gynhwysfawr ar gyfer cynllunio adferiad y Gymraeg ac mae am gydweithio gyda’r Llywodraeth i gyflawni hyn.