Cyfarfod Cyffredinol – Cynllunio

Rhaid i’r iaith Gymraeg fod yn gwbl ganolog ym maes cynllunio – dyna oedd y neges glir ddaeth o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol mudiad Dyfodol i’r Iaith yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd.

Galwodd Dyfodol am gryfhau’r TAN 20 newydd er mwyn cwmpasu datblygiadau unigol yn ogystal â chynlluniau datblygu unedol yr awdurdodau lleol. “Mae hi hefyd yn amlwg bod angen i arolygwyr cynllunio gael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith er mwyn deall cyd-destun a phwysigrwydd y Gymraeg yn ngwead cymdeithasol cymunedau Cymru”, yn ôl Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry. “Roedd yn syndod llwyr i mi glywed na chafodd yr un apêl cynllunio yn Sir Gar ei wrthod ar sail ieithyddol”, meddai Ms Jones Parry, “Mae hyn yn profi’n glir nad yw arolygwyr cynllunio yn deall arwyddocâd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.”

Mae Dyfodol hefyd yn galw am gynnwys y Gymraeg yn rhan greiddiol o’r mesur Cynllunio pan fydd yn cael ei gyhoeddi er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ystyriaeth statudol wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio.

Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth ac Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Sir Gar

Yn y cyfarfod cafodd Catrin Alun a Judith Humphreys eu hethol yn gyfarwyddwyr newydd ar y mudiad ac fe ail-etholwyd Simon Brooks, Heini Gruffudd a Huw Edwards yn ddi-wrthwynebiad.

Y cyfarwyddwyr yw:

Bethan Jones Parry (Llywydd)

Heini Gruffudd (Cadeirydd)

Simon Brooks (Ysgrifennydd)

Huw Edwards (Trysorydd)

Emyr Lewis

Richard Wyn Jones

Eifion Lloyd Jones

Catrin Alun

Judith Humphreys

Elin Walker Jones

Gwion Owain

Robat Gruffudd

Meirion Llywelyn

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *