3 sylw ar “Protestio yn Passe (erthygl i wefan y SMC)

  1. wedi cynnig syniad trwy drydar neithiwr. Mae’n bwysig i ni sylweddoli fod dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Ein hiaith-ein cyfrifoldeb.
    Mae’r syniad yn un syml. Pob Cymro Cymraeg i fabwysiadu dysgwr. Y ddau i gyfarfod mewn tafarn neu gaffi dyweder hynny ydi awyrgylch
    anffurfiol. Gellir newid amser y cyfarfyddiad wythnosol fel bo’r galw. Byddai’r wers yn cael ei chynig
    yn ddidal a’r pwyslais ar siarad,siarad,siarad. Mae unrhyw un sy’n siarad yr iaith yn gymwys i’w
    throsglwyddo i eraill.
    Eisoes cafwyd ymateb cadarnhaol gan ddysgwyr ac unigolion sy’n llafurio yn y winllan ieithyddol i’r syniad. Ar nodyn personol Heini,buaswn yn gwerthfawrogi dy ymateb dithau.
    [email protected]

    throsglwyddo i eraitamgylchiadau yma

    anffurfiol unwaith yr wythnos am awr.

  2. Diolch iti am y nodyn a’r awgrym creadigol. Ar lefel bersonol mae’n siwr bod hyn yn digwydd yn anffurfiol, ond mae’n bendant yn werth trio ffurfioli hyn a rhoi rôl benodol i siaradwyr Cymraeg.
    Mae Catalwnia eisoes wedi rhoi cynnig ar hyn. Mae cynllun Voluntaris per la llengua wedi’i drefnu gan 22 o Gonsortia Catalaneg i Oedolion. Cynllun yw hwn sy’n cysylltu newydd-ddyfodiaid i’r iaith â siaradwyr brodorol. Mae 140 o swyddfeydd lleol yn cymryd rhan yn y cynllun, ac mae 400 o gyrff gwirfoddol yn helpu trwy ddewis gwirfoddolwyr addas. Yn 2004 (blin am roi hen wybodaeth) parwyd 5,000 o siaradwyr brodorol â dysgwyr mewn 58 o drefi.
    Gallai trefniant o’r fath fod yn effeithiol yng Nghymru. Mae gennym y Canolfannau Cymraeg i Oedolion a rhwydwaith o ddosbarthiadau, a hefyd rwydwaith o sefydliadau gwirfoddol lleol (e.e. Merched y Wawr, Clybiau Cinio, corau Cymraeg ac ati) a hefyd y Mentrau Iaith. Dylai hi fod yn bosibl rhoi rôl benodol i’r CiO gydgysylltu’r drefniadaeth gyda’r Mentrau Iaith. (Trueni na phriodolwyd rôl benodol yn ymwneud â dysgwyr i’r Mentrau Iaith o dan yr hen Fwrdd yr Iaith.)
    Bydd yn dda i ni (neu unrhyw un arall) gynnig model ar gyfer gweithgaredd o’r fath.
    Cofion,
    Heini

  3. Dwi i’n dysgu Cymraeg! I’m English but have lived in Porthmadog since January. I enrolled on the first available WLPAN course. I intend to continue my learning and sit GCSE and A level courses in the future and then study Welsh history 🙂
    I have many welsh speaking friends who are helping me with my ymarfer! Ymlaen! Cymru am byth!! x

Gadael Ymateb i janine Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.