Ymateb i’r Cyfrifiad

ANGEN GWEITHREDU CADARNHAOL

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn profi’r angen am weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.  Dyna neges Dyfodol i’r Iaith ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniadau.

Mae gweithredu cadarnhaol  yn ôl natur ieithyddol y gwahanol ardaloedd yn awr yn dod yn hanfodol, yn ôl Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith. Mae’r mudiad yn mynnu bod rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddulliau o hybu’r iaith dros y deng mlynedd nesaf.

Medd Bethan Jones Parry, “Rydyn ni’n croesawu’r cynnydd yn nifer y siaradwyr mewn ardaloedd llai Cymraeg.  Dyna brofi bod addysg Gymraeg yn gwneud newid mawr, a bod dyhead cyffredinol i weld y Gymraeg yn iaith fyw yn y gymdeithas unwaith eto.”

Yr angen yn y mannau llai Cymraeg yw rhoi cyfleoedd i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg.  Medd y mudiad bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cyfleusterau hamdden a chwaraeon yn y Gymraeg i bobl ifanc.  Mae’r cynnydd yn nifer y siaradwyr hefyd profi bod angen sefydlu Canolfannau Cymraeg yn ganolbwynt i weithgareddau Cymraeg, i ddysgu’r iaith, ac i adloniant Cymraeg.  Bydd hyn yn creu cymunedau Cymraeg newydd.

Yn yr ardaloedd Cymraeg mae angen mynd i’r afael â’r economi, tai, y broses gynllunio ac iaith gweinyddu cyhoeddus.  Medd Bethan Jones Parry, “Mae gwendid yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg, o’u cymharu â’r sefyllfa ddeng mlynedd yn ôl, yn adlewyrchu’r symudiadau poblogaeth uchel yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â gwendid economaidd.”

“Rydyn ni’n croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru yn ei Phapur Gwyn diweddar ar sicrhau cymunedau cynaliadwy a chynnal etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.  Yn debyg i nifer o ardaloedd eraill yn Ewrop, sydd â’u hieithoedd a’u diwylliannau traddodiadol, mae rhai ardaloedd lle mae’r Gymraeg gryfaf wedi gweld symudiadau poblogaeth sylweddol oherwydd diffyg cyfleoedd economaidd yn lleol a diffyg cydbwysedd economaidd yn gyffredinol.  Galwn am bolisïau sydd yn hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol a ieithyddol.”

“Dylid ystyried creu ardaloedd twf mewn trefi yn y gorllewin a’r gogledd.  Mae angen adleoli adrannau o’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a allai weinyddu yn Gymraeg.  Bydd hyn yn fodd o ddenu siaradwyr Cymraeg allweddol i’r economi.”

“Rhaid gosod ffactorau ieithyddol yng nghanol y broses gynllunio, ac ailedrych ar frys ar y targedau tai afresymol o uchel a osododd Llywodraeth Cymru  ar yr awdurdodau lleol,” medd Ms Jones Parry. “Mae codi miloedd o dai diangen yn chwalu cymunedau Cymraeg gan danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth ei hun.  Mae rhaid i bob adran o fewn y Llywodraeth roi sylw i effaith eu polisïau ar y Gymraeg.”

“Mae angen i’r polisïau hyn roi blaenoriaeth i bobl ifanc leol, gan sicrhau bod modd i’r ardaloedd ddod yn atyniadol iddynt.  Mae’r diffyg cyfeiriad presennol wedi creu cymunedau sy’n heneiddio, ac eraill sydd wedi’u llethu gan dai gwag, ail gartrefi neu orlif o ddinasoedd .”

“Mae hi’n ddyletswydd foesol ar Lywodraeth Cymru i dderbyn cyfrifoldeb am adfer y cymunedau Cymraeg ac i greu cymunedau Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg.”

“Nid yn awr yw’r amser i ochneidio am unrhyw golledion.  Mae’n rhaid camu ymlaen yn hyderus, a rhoi cynlluniau cadarnhaol ar waith, er mwyn i’r Gymraeg gael dyfodol disglair ledled y wlad.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *