Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

Mae angen creu Sefydliad cenedlaethol i drefnu holl faes dysgu Cymraeg i Oedolion. Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith mewn cyflwyniad i’r grŵp sy’n adolygu’r ddarpariaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y maes yn cael ei redeg gan sefydliad cenedlaethol a fydd yn cyflogi arbenigwyr.  Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl gosod safonau a thargedau newydd.

Bydd hyn yn cynnwys cynnig cyrsiau 1,200 o oriau a rhyddhau pobl o’u gwaith.  Y nod yw targedu rhieni a fydd maes o law yn newid iaith eu cartref i’r Gymraeg, a gweithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y dysgu’n digwydd mewn Canolfannau Cymraeg, fel bod y dysgu’n cydredeg â datblygu’r Gymraeg yn iaith gymunedol mewn ardaloedd di-Gymraeg.

Bydd pwyslais hefyd ar gymathu mewnddyfodiaid, fel bod ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn elwa.

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf sy’n dechrau dysgu’r iaith yn oedolion yn gorffen ar ôl blwyddyn neu ddwy, heb ddod yn rhugl.  O’r 18,000 sydd mewn cyrsiau dysgu iaith, tua 1000 sy’n para i’r bedwaredd flwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain dros eu 50, a’r grŵp mwyaf dros 60 oed.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd am weld y gwariant ar Gymraeg i Oedolion yn dyblu, fel ei fod yn cyfateb i’r ddarpariaeth dysgu Saesneg i oedolion yn y Deyrnas Unedig, ac i ddysgu’r Fasgeg i oedolion yng Ngwlad y Basgiaid.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Er bod Cymru wedi arloesi ym maes dysgu iaith i oedolion, ac er bod gwaith gwych yn cael ei wneud ar lawr gwlad, mae’r system ariannu sydd gyda ni’n rhwystro llwyddiant.”

Ychwanegodd, “Mae’r system bresennol yn cynnig rhyw 400 o oriau dros bedair blynedd – un rhan o dair o’r hyn sydd ei angen i fod yn rhugl.  Mae’r rhan fwyaf o ddosbarthiadau’n cynnig 2 neu 4 awr yr wythnos, sy’n bell o fod yn ddelfrydol.”

“Os ydym o ddifri am wneud yn siŵr bod y rhan fwyaf sy’n dechrau dysgu’r iaith yn dod yn rhugl, mae rhaid i ni ddarparu system ddysgu sy’n eu helpu yn hytrach nag yn eu rhwystro.”

“Bydd Sefydliad cenedlaethol Cymraeg i Oedolion yn gallu trefnu cyrsiau 1,200 o oriau, rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr sy’n mynd i ddefnyddio’r iaith yn y cartref ac yn y gwaith, a sicrhau bod dysgwyr sydd o ddifri’n cael pob cyfle.”

5 sylw ar “Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

  1. Trueni o’r mwyaf nad oedd Dyfodol wedi gweneud eu gwaith cartref ac wedi dibynnu yn hytrach ar farn unigolyn nad yw mwyach yn gweithio yn y maes. Mae nifer o ffeithiau cwbl anghywir yn y blogiad hwn, fel y byddai unrhyw ymgynghori â’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi dangos. Trychineb fyddai’r argymhelliad o ganoli cyfrifoldeb am y ddarpariaeth. Rwy’n hynod o siomedig mewn mudiad yr oeddwn i’n credu fyddai’n dadlau dros y Gymraeg gyda hygrededd ar safbwyntiau’n seiliedig ar dystiolaeth.

  2. Ymateb Heini Gruffudd i’r dylw uchod:
    Daeth dy sylwadau ar wefan Dyfodol i’m sylw.
    Byddai’n fuddiol i mi geisio cywiro’r honiad sydd gennyt amdanaf nad wyf ‘bellach yn gweithio yn y maes’:
    Mae gen i gyswllt â dysgu oedolion mewn tair ffordd:
    1. Rwy’n dal i ddysgu oedolion, er mod i wedi ymddeol o’m swydd amser llawn. Mae nifer o rai sydd ar gamau olaf eu dysgu yn dod i’m dosbarthiadau.
    2. O ran ymchwil, mae gwaith y bûm i a Steve Morris yn ei wneud dros gyfnod o ddwy flynedd newydd ei gyhoeddi. Roedd y gwaith yn cynnwys trafod â rhyw ugain o ddosbarthiadau dysgwyr ledled y wlad, yn bennaf yn y de a’r de-ddwyrain a’r gogledd-orllewin. Cafwyd blas mawr o weld yr ymdrech enfawr a wneir gan gynifer.
    3. Rwy’n gweithio’n wirfoddol yn y Siop Siarad a gynhelir yn Nhy Tawe’n wythnosol, ac yn ceisio mynychu’n wythnosol.
    Byddai’n dda i mi wybod pa ffeithiau ‘cwbl anghywir’ sydd yn y ‘blogiad’. Mae’n anodd i mi ateb y pwynt hwn heb gael sylwadau mwy manwl. Rwy’n atodi’r sylwadau gan Dyfodol i’r Iaith, a chroeso iti dynnu sylw at unrhyw ffeithiau anghywir. Byddwn yn gwerthfawrogi hyn, wrth reswm. Gwna nodiadau ar y copi, ac os yw dy ffeithiau di’n wahanol ac yn gywir, fe wnaf i amrywio’r ddogfen yn unol â hyn.
    Mae rhai sy’n gweithio yn y Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi bwrw golwg ar y ddogfen, wedi awgrymu sawl pwynt, ac wedi ei chymeradwyo. Bu ymdrech i ymgynghori. Dyma farn un: “mae’n ddogfen ddigon rhesymol a theg”.
    Fel y gweli yn y ddogfen, nid ymdrech i ganoli darpariaeth yw’r nod. Mae’r ddogfen yn sôn am gydlynu gwaith y Chwe Chanolfan, ac nid yw hyn yn wahanol i’r drefn bresennol. Yr arweiniad gan arbenigwyr wrth gydlynu fyddai un gwahaniaeth amlwg. Yr angen yw darparu llwybrau dysgu sy’n caniatau i ddysgwyr gael cyrsiau dwys hyd at 1,200 o oriau i ddod yn rhugl. Ni welaf sut y gellir gwneud hyn heb gael ymyrraeth ganolog, o du’r Llywodraeth, i ariannu amser rhydd o’r gwaith ac i hyrwyddo hyn. Dyma lle mae angen arweiniad o’r canol, a gallai arbenigwyr yn y maes roi’r arweiniad hwn. Arweiniad arall a allai ddod o’r canol yw hyrwyddo sefydlu Canolfannau Cymraeg, er y gellir dadlau i ba raddau y dylai’r rhain fod yn fentrau lleol yn y bôn. Mae dod i benderfyniad ar adnoddau a chyrsiau yn fater arall eto.
    Gallen ni ddadlau ar hyn, wrth reswm. Byddai’n dda gwybod a oes gennyt wrthwynebiad i’r modd y mae HABE yn arwain yng Ngwlad y Basgiaid. Bu dadlau yno hefyd, rwy’n derbyn, rhwng darparwyr preifat a HABE, ond rwy’n deall bod llawer o hyn wedi’i ddatrys.
    Croeso iti ymhelaethu ar sut byddai hyn yn ‘drychineb’. Efallai iti gredu bod y ddogfen yn sôn am ddileu’r Chwe Chanolfan bresennol, ond nid awgrymir hyn o gwbl.
    Dymuniadau gorau,
    Heini

  3. Heini
    Diolch am ymateb mor gyflym ac mor fanwl i’r sylwadau byrion iawn a adawes i ar y wefan. Diolch hefyd am anfon copi o’r ddogfen lawn, nad oeddwn wedi ei gweld o’r blaen. Mae yna nifer fawr o bwyntiau yn y ddogfen honno rwyf yn cytuno 100% â nhw. Serch hynny mae’r pryder a fynegais ynghynt yn dal i fodoli.
    Wyddwn i ddim dy fod â dosbarth yn Abertawe ac mae’n ddrwg gen i am roi’r argraff dy fod wedi ymddeol ! Dw i’n ymwybodol o’r gwaith ymchwil y buest ti a Steve ynghlwm â fo. Mae’n gyfraniad amserol iawn o ystyried gwaith y panel adolygu.
    Fel y dywedais ynghynt rwy’n cytuno efo llawer o’r argymhellion a wnaed yn y cyflwyniad yn arbennig felly:
     Achredu ac asesu ffurfiannol . rwy’n siŵr dy fod yn ymwybodol bod y Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi gwneud yr union bwynt yma i’r panel Rwyf innau wrthi’n paratoi papur ar sut i symud y maes ymlaen o ran asesu ar gyfer dysgu
     Strwythur proffesiynol i’r tiwtoriaid
     Gwella’r drefn o fewn y gweithle
     Cynyddu’r gwariant ar y maes yn sylweddol
     Dwysau’r cyrsiau
    O ran y dwysau rwy’n siŵr dy fod yn ymwybodol o’r cyrsiau ‘Super’ sydd i’w cael yn y gogledd. Mae’r rhain yn gyrsiau o lefel Wlpan hyd at Feistroli ( neu Fynediad hyd at Uwch dylwn ei ddweud). Cwblheir y pedair lefel mewn dwy flynedd. O ystyried yr adnoddau ychwanegol a’r cyrsiau atodol a gynigir bydd y dysgwyr hyn wedi llwyddo i gael rhagor na’r 1200 o oriau cyswllt erbyn diwedd eu cyrsiau.
    Mae yna wahaniaeth rhyngom o bosib o ran pwyslais a blaenoriaethau. Heb fanylu gormod yma mi soniaf yn arbennig am:
    • Y pwyslais a roddir ar ruglder yn hytrach nac ar ddefnydd o’r iaith. I mi nid yw rhuglder yn fesuradwy nac wedi ei ddiffinio’n glir. Rheitiach mesur y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein dysgwyr fel mesur o’u llwyddiant.
    • Rwy’n cydweld i raddau gyda thargedu rhieni a gweithwyr ond mae’r pobl hyn yn aelodau o gymdeithas yn ogystal. Mae angen sgiliau cyfathrebu cyffredinol arnynt er mwyn cael gwneud defnydd llawn o’r Gymraeg. Mae’r cyrsiau penodol i rieni o reidrwydd yn cael eu targedu at rieni plant ifanc iawn. Does far o bwynt i riant plentyn deg oed ddysgu ‘Gee ceffyl bach’
    Yr hyn oedd yn fy mhoeni fwyaf am y cyflwyniad, y crynodeb ohono a rhai o ‘r sylwadau y darllenais amdanyn t yn y wasg , oedd yr argraff a roddir nad yw’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn gwneud gwahaniaeth. Fe wyddost mae’n debyg bod ein canolfan ni yn y gogledd yn gyfrifol am bron i 40% o’r ddarpariaeth genedlaethol. Cymeraf yn ganiataol dy fod wedi darllen adroddiad Estyn ar ddarpariaeth y gogledd ac wedi nodi’r dyfarniad ‘Rhagorol’ a roed iddi. Nid ar chwarae bach y rhoddir dyfarniadau o’r fath. Roedd Estyn wedi ystyried data cyfredol y Ganolfan ac wedi canfod bod yr ymrestriadau a’r safonau wedi codi’n sylweddol ers bodolaeth y Ganolfan. Cofnodwyd bod y dilyniant o un lefel i’r llall yn dda iawn a bod y ddarpariaeth allgyrsiol yn rhagorol. Rwy’n siŵr dy fod fel finnau yn cofio’r amser pan mai llond dwrn o’r un hen wynebau oedd yn mynychu sesiynau allgyrsiol. Y llynedd bu i dros dair mil o ddysgwyr y gogledd yn mynychu digwyddiadau o’r math.
    Mae’r llwyddiant hwn yn deillio o adeiladu o’r gwaelod i fyny, o feithrin perthynas glos gyda phartneriaid cymunedol ac o’n hadnabyddiaeth ni o’n ardal. Cam yn ôl fyddai canoli’r gweithdrefnau a’r strategaethau, a thynnu’r arbenigedd oddi ar y canolfannau a’u lleoli ( mae’n bur debyg) yn y Brifddinas. Dw i’n poeni weithiau bod yna or-ramantu am Wlad y Basg, bum i yn HABE am sbel fach ac nid yw’n fêl i gyd yno. 
    Mae’r data a ddefnyddir yn y cyflwyniad yn hurt o hen. Un o 2003 , ymhell cyn bodolaeth y Canolfannau, a’r llall yn deillio o ystadegau 2007-8, sef y flwyddyn y cychwynnodd y Canolfannau ar eu gwaith. Dyma lle mae’r ffeithiau’n anghywir. Nid y grŵp oedran 60+ yw’r helaethaf o bell ffordd yn y gogledd ac nid yw wedi bod ers rhai blynyddoedd. Mae’r ganran o’r grŵp hwnnw sy’n mynychu cyrsiau Cymraeg yn sylweddol is na’r ganran oedran honno yn y gymuned ehangach. Wedi dweud hynny ni ddylid dibrisio cyfraniad ac ymroddiad nifer o’r dysgwyr hŷn. Os mai mewnfudwyr yw’r gynulleidfa darged yn yr ardaloedd Cymraeg rhaid derbyn bod nifer helaeth ohonynt yn bobl hŷn. Mae llawer ohonynt hefyd yn neiniau a theidiau fydd yn medru defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant.
    Ni fedraf gredu ychwaith bod dy gasgliadau ynglŷn â rhesymau dysgwyr dros adael cyrsiau yn seiliedig ar dystiolaeth. Edrycha ar dystiolaeth ymchwil Tim Jilk ac ar ffurflenni ymadawyr cynnar y canolfannau ac fe gei gywirach ddarlun o’r sefyllfa.
    Nid yw’r ffaith ein bod yn anghytuno’n poeni llawer arna i. Mae gennyf barch enfawr at dy gyfraniad i’r maes dros y blynyddoedd ac mae gwerth i ddeialog o’r math hwn, debyg iawn. Roeddwn i’n siomedig fodd bynnag mai yn enw Dyfodol ac nid yn dy enw di y cyflwynwyd y sylwadau hyn. Byddwn yn disgwyl i Dyfodol ymgynghori’n helaeth â’r maes cyn rhoi tystiolaeth ar fater mor bwysig. Nid dweud rwyf y dylai Dyfodol gytuno a safbwynt ymarferwyr yn y maes o reidrwydd, ond y dylent o leiaf fod wedi rhoi tystiolaeth yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ac ar ôl clywed lleisiau lluosog.

  4. Da iawn. Dyma yn union sydd angen ar y maes, ffocws strategol cenedlaethol efo rhwydwaith o ganolfannau lleol, adnoddau pwrpasol i’r maes a dysgu dwys. Pan newidiodd ELWa y drefn o un lle roedd pawb a phopeth yn darparu i 6 canolfan, roedd yn gam ymlaen, ond nid Prifysgolion dylai fod yn arwain. Maent yn rhwym wrth prosesau biwrocrataidd a chostau canolog sylweddol ac mae angen buddsoddi yn hytrach yn y gymuned a datblygu rhwydwaith o ganolfannau pwrpasol.

  5. Annwyl Haydn,
    Diolch iti am ymateb yn llawn. Dw i ddim yn credu bod llawer o wahaniaeth rhyngon ni.

    Fe dria i ymateb yn gryno.
    1. Sylwadau i bwyllgor adolygu sydd gan Dyfodol, nid dogfen bolisi gyflawn. Ein dull wrth lunio sylwadau yw bod un neu ragor ohonom yn arwain (fi yn yr achos hwn), a chaiff y drafft ei anfon sawl gwaith at holl aelodau’r Bwrdd cyn cwblhau’r sylwadau. Fe es i sawl cam ymhellach a thrafod y maes gyda thiwtoriaid ac eraill sy’n gweithio i Ganolfannau Cymraeg i Oedolion, ac addasu yn ôl yr hyn a glywais ganddynt, a chyflwynais y copi drafft terfynol i eraill yn y maes a derbyn eu hawgrymiadau. Does dim angen iti fod yn siomedig mai yn enw Dyfodol y mae’r sylwadau, yn hytrach nag yn fy enw i. Dyma’r drefn sydd gan Dyfodol ar hyn o bryd.

    2. Mae Dyfodol eisoes wedi cyflwyno sylwadau ar y meysydd hyn i wahanol adrannau Llywodraeth Cymru: Safonau’r Comisiynydd Iaith; Cytundeb BBC ac S4C; Fframwaith Gweithredu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Ymgynghoriad ar Awtistiaeth; Pwyllgor Adolygu Cymraeg i Oedolion. Caiff y rhain eu llunio gan berson/au arwain, a’u llunio trwy anfon at holl aelodau’r Bwrdd. Y bwriad o hyn ymlaen yw anfon dogfennau drafft at ein holl aelodau, fel bod y broses yn un agored i holl aelodau Dyfodol i’r Iaith. Mae croeso iti ymuno.

    3. Mae’n wych clywed am y gwaith yng Nghanolfan y Gogledd, a dim ond edmygedd sy gen i tuag at bawb sy’n ymlafnio yn y maes. Gwnaeth y rhaglen weithgareddau sydd yn y gogledd-ddwyrain argraff fawr iawn arna i. Felly hefyd ymdrech y dysgwyr y siaradais â nhw mewn dosbarthiadau ledled y wlad. Yr un pryd, roedd y diffyg oriau cyswllt i’r rhan fwyaf o ddysgwyr, a hefyd y diffyg cyfleoedd allgyrsiol i’r rhan fwyaf, yn boenus o amlwg. Ceisio ymateb i hyn a wnawn.

    4. Mae’r ychydig gyrsiau dwys sydd yng Nghymru yn arwain y ffordd. Ein dadl yw bod angen i gyrsiau o’r fath fod yn brofiad y mwyafrif, nid y lleiafrif.

    5. Ffigurau 2008-9 gan Adran Addysg y Llywodraeth yw’r ffigurau dilyniant a ddefnyddiwn (nid 2007-8). Clywais gan rai yn y maes bod peth gwelliant ers hyn, ond nid digon i newid y ddadl. Mae rhai cyrsiau’n gwneud yn llawer gwell nag eraill wrth gwrs, a’r cyrsiau sy’n gymharol ddwys yw rhai o’r rhain. Croeso iti osod y ffigurau dilyniant diweddaraf yn y gogledd ar y wefan.

    6. Roedd y gwaith a wnaeth Steve Morris a minnau (Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg) yn defnyddio sampl o dros draean o’r dysgwyr ar lefelau 3 a 4. Roedd oed yr ymatebwyr – sef y rhai sydd mewn gwirionedd yn mynychu dosbarthiadu – yn cyfateb i oed y dysgwyr yn ystadegau’r Llywodraeth. 13% o’r sampl oedd o dan 40. Roedd dros hanner y sampl yn hŷn na 60. Dyma’r sefyllfa y mae’n rhaid ei weddnewid. (Byddai’n dda cael ystadegau am y gogledd, os ydynt gennyt.) Nid dibrisio’r rhai hŷn na 60 a wnaf (a minnau yn eu plith!) ond gweld yr angen am ganolbwyntio ar rieni a all newid iaith y cartref a rhai a all ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

    7. Mae gwaith diddorol yn ymchwil Chris Reynolds ar resymau dysgwyr dros adael dosbarthiadau, a defnyddiais hyn. Mae ymrwymiadau gwaith yn amlwg yn y rhain, ac mae hyn yn ddadl gref dros ryddhau gweithwyr am gyfnodau o’r gwaith er mwyn dysgu mewn cyrsiau dwys.

    8. Ga i bwysleisio eto nad oes dim yn y Sylwadau sydd gennym yn bychanu unrhyw elfen o waith y Canolfannau. Cyfeiriad y sylwadau yw hyrwyddo’r gwaith, er mwyn rhoi pob tegwch i rai sy’n dysgu, a rhoi iddynt yr un cyfle ag a gaiff dysgwyr mewn sawl gwlad yn Ewrop.

    9. Yn olaf, wrth hyrwyddo’r syniad o sefydlu Canolfannau Cymraeg ar gyfer dosbarthiadau, y nod yw plannu’r dysgu yn y gymuned fel bod y siaradwyr newydd yn dod yn rhan o’r gymuned ehangach, a lle mae angen hynny, yn creu cymunedau Cymraeg newydd.

    10. I drefnu’r newidiadau ledled y wlad, mae angen Sefydliad Cenedaethol Cymraeg i Oedolion i arwain hyn, gydag arbenigwyr fel tithau’n arwain. Byddai’n ddigon da i’r sefydliad gael ei leoli i ffwrdd o’r brifddinas (yn wahanol i gynifer o adrannau presennol y Llywodraeth).

    Cofion atat,
    Heini

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.