Araith Emyr Lewis i gyfarfod lansio Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod 2012

Yng nghyfansoddiad Dyfodol i’r Iaith, un amcan sydd yna, sef gweithredu er lles y

Gymraeg.

Ein bwriad yw gwneud hyn yn agored, yn annibynnol ac yn gyfansoddiadol.

Fe drafodaf y tair elfen hon yn eu tro.

Agored

  • Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad sy’n agored i unrhyw un sy’n caru’r iaith, ac yn ewyllysio ei llwyddiant hi.
  •  Does dim ots beth yw’ch daliadau gwleidyddol, os ydych yn aelod o unrhyw blaid neu o ddim plaid, mae croeso, dim ond i chi ddeall mai lles yr iaith nid lles unrhyw blaid na charfan na safbwynt nac unrhyw fudiad (gan gynnwys Dyfodol i’r Iaith ei hun) yw’r flaenoriaeth.

Annibynnol

  •  Prif waith Dyfodol i’r Iaith fydd ceisio dylanwadu ar y sefydliadau democrataidd a llywodraethol Nghymru, ac yn Llundain lle bo raid, fel eu bod hwythau yn gweithredu er lles y Gymraeg.
  •  Er mwyn cyflawni’r gwaith mae angen cynnal trafodaeth, cyflwyno tystiolaeth ac ymchwil ac ymwneud, weithiau yn feunyddiol, â gwleidyddion a gweision sifil i fedru dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth. Rhaid felly greu a chynnal perthynas weithio dda gyda’r cyfryw bobl ond rhaid gochel rhag mynd yn rhy gyfeillgar. Mae angen i’r berthynas fod yn un annibynnol, hyd braich, fel bo modd beirniadu yn onest, ond yn gwrtais ac adeiladol, lle bo angen.
  •  Mae hyn yn anodd i nifer o fudiadau eraill sy’n gweithredu er lles y Gymraeg, yn gyntaf am eu bod yn ddibynnol, i raddau mwy neu lai, ar arian y Llywodraeth, ac yn ail am eu bod yn elusennau, sy’n cyfyngu ar eu rhyddid o ran gweithredu a dwyn pwysau.
  •  Am y rheswm hwnnw bwriad Dyfodol i’r Iaith yw peidio â derbyn arian cyhoeddus a pheidio â chofrestru fel elusen, fel ein bod yn rhydd i gyflawni’r amcan yn annibynnol a gonest.

Cyfansoddiadol

  •  Fedrwn ni ddim gweithredu mewn gwagle – rhaid gweithredu yng nghyd-destun Cymru a’r Gymraeg heddiw, nid fel yr oedd pethau’n arfer bod na chwaith fel y dymunem i bethau fod.
  •  Bydd y pwyslais hwn ar fod yn ymarferol a realistig am sefyllfa’r iaith yn hydreiddio ein gwaith yn arbennig ym maes cynllunio iaith, fel y mae araith Heini’n ei danlinellu.
  •  Ond o ran dulliau gweithredu’r mudiad, byddwn yn ymateb i’r gwirioneddau canlynol, sef bod y grym gwleidyddol go iawn i weithredu er lles y Gymraeg bellach o fewn ein sefydliadau cenedlaethol, y Cynulliad a’r Llywodraeth, ac mai canolfan ddaearyddol y grym hwnnw yw’r brifddinas.
  •  Fel y nodais, bydd angen dylanwadu ar y sefydliadau hyn, er mwyn cyfeirio eu grym gwleidyddol i weithredu er lles y Gymraeg eu hunain.
  •  Yn y rhan fwyaf o feysydd polisi, daeth y cyfnod i ben lle’r oedd modd beio pob dim naill ai ar lywodraeth yn Llundain bell nad oedd yn hidio taten am yr iaith, neu ar Ysgrifennydd Gwladol nad oedd yn atebol yn uniongyrchol i bobl Cymru.
  •  Bellach yn nwylo’r rhai sy’n uniongyrchol atebol i bobl Cymru y mae’r grym. Mae hyn yn golygu dau beth:

1.  Mae’n haws i ni gael mynediad at y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau.
Wnân nhw ddim troi clust fyddar. Fe wnân nhw wrando, a chynnal trafodaeth. Pobl frwd a phenderfynol o blaid y Gymraeg yw’r Gweinidog presennol a’i ragflaenydd, ac mae cefnogaeth gyffredinol i’r Gymraeg ar draws y pleidiau gwleidyddol.

2. Mae hi hefyd yn anoddach, oherwydd mae’n ofynnol nawr i gynnal dadl a thrafodaeth, ac nid ar chwarae bach y mae gwneud hynny. Mae gan y Llywodraeth adnoddau llawn amser proffesiynol er mwyn datblygu polisi a deddfwriaeth ac er mwyn gweithredu. Mae’n waith caled caib a rhaw i fynd i’r afael â’r maes hwn.

Gallaf ddweud hynny o fy mhrofiad personol wrth geisio dylanwadu ar y Mesur Iaith – ac yn arbennig yr ymgyrch i sicrhau datganiad diamwys o statws swyddogol i’r Gymraeg yn y Mesur. Golygodd y trafodaethau, yr ymgyrchu, y gohebu a’r pwyso dros yr un cymal bychan ond arwyddocaol hwnnw wythnosau o waith i nifer o wirfoddolwyr. Yn wir dyna oedd gwaith llawn amser Angharad fy ngwraig gydol Hydref a Thachwedd 2010, yn cydweithio yn adeiladol a phwrpasol efo Colin Nosworthy, Catrin Dafydd ac eraill o Gymdeithas yr Iaith.
(Gallaf eich sicrhau, gyda llaw na chynigiwyd yr un pryd o fwyd na gwydraid o win i neb.)

  •  Fe lwyddodd yr ymgyrch dros Statws Swyddogol i ddenu cefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac o bob rhan o Gymru, ac fe brofodd i nifer ohonom yr angen am ryw fudiad tebyg i Dyfodol i’r Iaith fyddai’n gallu gweithredu mewn modd fel hyn yn y dyfodol, ond nid ym maes deddfu yn unig, eithr cyn bwysiced, os nad pwysicach, ym maes polisi, lle mae perygl enbyd i’r Gymraeg fynd ar goll yng nghanol yr holl drafodaethau. (Yn y cyd-destun hwn, croesawn ddatganiad Meri Huws y Comisiynydd Iaith yr wythnos hon ei bod am flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol.)
  •  Rhaid i ni hefyd dderbyn bod caredigion yr iaith wedi bod yn araf yn deffro i’r newidiadau hyn. Mae diddymu Bwrdd yr Iaith a throsglwyddo ei swyddogaethau hyrwyddo a’i staff profiadol i’r Llywodraeth wedi amlygu maint y gwagle o fewn ein cymdeithas sifig o ran gweithredu’n gyfansoddiadol dros y Gymraeg. Yr ydym wedi caniatáu yn rhy hir i’r Bwrdd ac ambell fudiad gario’r baich ar ein rhan.
  •  Rhaid i ni beidio chwaith â diystyru’r gwaith hanfodol y mae anufudd-dod sifil wedi ei wneud dros y Gymraeg yn y gorffennol. Gallaf gyfeirio at fy niweddar dad yng nghyfraith annwyl, Douglas Davies, dreuliodd wythnos yn y carchar, ac yntau’n rheolwr banc newydd ymddeol, am wrthod talu am drwydded deledu ym 1978. Mae traddodiad anrhydeddus a dewr o weithredu felly yn egwyddorol ac yn agored gan dderbyn y canlyniadau. Fe all fod lle i hyn eto. Ond mae’r cyd-destun yn wahanol nawr. Bwriad Dyfodol i’r Iaith yw canolbwyntio ar y cyd-destun hwnnw.
  •  Yr ydym yn disgwyl yn hyderus y bydd ein sefydliadau cenedlaethol ynymateb yn gadarnhaol ac yn ddeallus i anghenion yr iaith Gymraeg, ac yn gweithredu yn unol â hynny. Arwydd o fethiant democrataidd, yn ein barn ni, fyddai gorfod gweithredu yn groes i’r gyfraith o fewn ein hegin wladwriaeth Gymreig.
  • Mae rhai wedi ceisio defnyddio’r nodwedd hon er mwyn creu hollt rhwng pobl sydd yn rhannu’n un ddelfryd, sef lles yr iaith Gymraeg, ond sy’n anghytuno ar gwestiwn anufudd-dod sifil. Ni ddylem godi i’r abwyd hwnnw. Peth peryglus fyddai mabwysiadu rhethreg y “ni a’r nhw” yn y cyd-destun hwn. Ni a Ni yw hi.
  •  Ond beth bynnag yw ein teimladau a’n dyheadau, rhan o fod yn realistig yw cydnabod bod angen adnoddau digonol i alluogi mudiad o’r math hwn i weithio.
  •  Os edrychwn ar fudiadau eraill sy’n gyson yn pwyso ac yn dylanwadu ar lywodraeth a gwleidyddion, fe nodwn fod ganddynt staff cyflogedig, sy’n gweithio’n llawn amser ar y gwaith hwn. Does dim modd cyflawni gweledigaeth Dyfodol oni bai bod digon o gyllid gennym. Nid ydym am ddibynnu ar yr opsiwn hawdd o geisio nawdd cyhoeddus. Bydd Dyfodol i’r Iaith yn llwyddo neu yn methu yn dibynnu at sut gefnogaeth ymarferol y bydd yn ei chael. Mae hynny’n golygu archebion banc yn dod ag incwm cyson i’r mudiad bob mis. Byddai fy niweddar dad yng nghyfraith yn cytuno ac yn amenio’n groch.