Cefnogi Cyngor Sir Gar

CYNLLUN IAITH SIR GAR YN UN I’W EFELYCHU YN SIROEDD ERAILL CYMRU

Mae’r Cynllun Iaith gafodd ei dderbyn gan Gyngor llawn Sir Gâr yn un ddylai gael ei efelychu gan siroedd eraill Cymru.  Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith mewn ymateb wrth i Sir Gâr dderbyn y cynllun iaith yn ddiwrthwynebiad.

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n gam hanesyddol bod Sir yng Nghymru’n derbyn Cynllun Iaith sy’n cwmpasu tai, yr economi, addysg a’r iaith mewn gwaith ac yn y gymdeithas.”

Ychwanegodd, “Mae gan y Cynllun Iaith a gafodd ei dderbyn gan Sir Gâr y gallu i  weddnewid sefyllfa’r Gymraeg yn y sir. Mae’n mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r agweddau sydd o fewn gallu Cyngor Sir.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy gan weithwyr yn y Sir, ac at weld y Sir yn cynnig gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc.”

“Cyflwynodd Dyfodol i’r Iaith sylwadau i’r gweithgor oedd yn paratoi’r Cynllun Iaith, ac mae’n dda gweld bod y Cynllun Iaith wedi ymateb mor gadarnhaol.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru’n awr dderbyn y Cynllun Iaith hwn fel patrwm gweithredu ar gyfer siroedd eraill Cymru.”

“Yn y pen draw, defnyddio’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymdeithas ac yn y gwaith fydd yn ei diogelu, yn anad dim arall.”

 

Cyfarfodydd Cyhoeddus Bangor a Dinbych

Mae Dyfodol i’r Iaith yn cynnal dau gyfarfod cyhoeddus yng ngogledd Cymru yn ystod ym mis Ebrill.

Fe fydd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sydd hefyd yn  aelod o Fwrdd Dyfodol, yn annerch yn y ddau gyfarfod

Mae cyfarfod Bangor yn cael ei gynnal yng Nghapel Berea Newydd, ar nos Fawrth y 29ain o Ebrill am 7pm

Bydd cyfarfod Dinbych ym Melin Brwcws ar nos Fercher y 30ain o Ebrill am 7.30pm

Croeso i bawb – yn aelodau a darpar aelodau!

cyfarfod Berea Newydd, Bangor                             cyfarfod Brwcws, Dinbych

 

Cefnogi’r Mentrau Iaith

Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn bod dros 1,800 o bobl wedi arwyddo ein deiseb yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi gwaith holl Fentrau Iaith Cymru.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC,  ar ddydd Mercher yr 2il o Ebrill gan Elin Maher o Fenter Iaith Casnewydd ac Emily Cole o Fentrau Iaith Cymru.

William Powell AC, Elin Maher, Emily Cole, Russell George AC

William Powell AC, Elin Maher, Emily Cole, Russell George AC

Penderfynodd  Dyfodol i’r Iaith fynd ati i baratoi’r ddeiseb mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd am waith y Mentrau yn gynharach eleni. Roedd yr adroddiad hwnnw yn dweud y dylai gwaith pwysig y Mentrau barhau a datblygu ond nad yw’r Mentrau’n cael eu hariannu’n deg nac yn ddigonol i weithredu i’w potensial llawn.

Gallwch ddarllen datganiad Mentrau Iaith Cymru yn croesawu cefnogaeth Dyfodol i’r Iaith yma. Datganiad Mentrau Iaith Cymru