DYFODOL I’R IAITH YN BEIRNIADU CYHOEDDIAD LLYWODRAETH CYMRU AM ACADEMI SEREN

…mae’n ymddangos bod Prifysgolion Cymru, y Gymraeg, a’r myfyrwyr eu hunain yn cael eu sathru yn ôl y galw am ragoriaeth elît ac addysg Prifysgol y tu hwnt i Gymru, heb ddigon o ystyriaeth i anghenion lleol na’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer addysg uwch. Mae’r anghydbwysedd yn peri gofid, mae’n awgrymu bod rhai mentrau fel Academi Seren ‘uwchlaw’ beirniadaeth tra bod y rhelyw yn cael eu hesgeuluso’n llwyr a’u hamddifadu o arian sy’n cael ei gyfeirio o’r newydd i Academi Seren. Dylai hyn oll beri inni ofyn: pwy yn union y mae’r Cynllun hwn yn ei wasanaethu, a beth yw’r pris gwirioneddol i Gymru, y Gymraeg ac i Brifysgolion Cymru?…

Mwy yma:

Datganiad i’r Wasg – beirniadu cynllun model newydd Academi Seren

Dyfodol i’r Iaith yn galw am newid polisi cefnogaeth ariannol myfyrwyrPrifysgolion o blaid aros yng Nghymru

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid ei pholisi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Prifysgolion i fod o blaid aros yng Nghymru.

Ar ddydd Mawrth 26ain o Dachwedd bydd Dyfodol i’r Iaith yn cynnal digwyddiad ym Mae Caerdydd a noddir gan Cefin Campbell, Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Yn y digwyddiad bydd Elaine Edwards ar ran Dyfodol i’r Iaith yn datgan nad oes modd cyfiawnhau’r gwariant cynyddol ar gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd i Brifysgolion y tu allan i Gymru…

Datganiad i’r wasg

Taflen wybodaeth