YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”

YMATEB DYFODOL I’R MAP AWDURDODAU LLEOL NEWYDD

Wrth dderbyn yr her sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am ystyriaeth ddwys i’r Gymraeg drwy gydol y broses o ail-lunio ffiniau’r awdurdodau newydd.

Mae’n broses sy’n cynnig cyfleoedd a bygythiadau i hyrwyddo’r Gymraeg o safbwynt ei statws cyhoeddus, darparu gwasanaethau, a sefydlu gweinyddiaeth a gweithlu lle rhoddir pwyslais a gwerth dyledus i’r iaith.

Mae’r ffiniau a gyhoeddwyd heddiw yn gosod her i gynyddu defnydd y Gymraeg ar draws yr awdurdodau newydd, a bydd Dyfodol yn parhau i lobio a chyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn hytrach nag unrhyw ddirywiad yn sgil cyhoeddi’r map diwygiedig.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n hanfodol bwysig i ni warchod y gwaith da a gyflawnwyd eisoes, a thrwy hyn osod sylfaen ar gyfer rhannu a chynyddu ymarfer da.

Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Dylid ystyried yn ofalus pa ffiniau fyddai’n addas er mwyn hyrwyddo gweinyddiaeth mewnol cyfrwng Cymraeg. Mae dadl gref o safbwynt polisi iaith o blaid cael tri cyngor yn y gogledd: Gwynedd a Môn, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.”

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU MWY O GANOLFANNAU IAITH

Rhoddodd Dyfodol i’r Iaith groeso cynnes i ddatganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd £1.5 miliwn ar gael i sefydlu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

Ariannir prosiectau ym Môn, Caerdydd, Tregaron, Bangor, Aberteifi a Phontardawe.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod canolfannau o’r math yn allweddol bwysig i adnewyddiad y Gymraeg. Dengys llwyddiant y canolfannau a sefydlwyd eisoes eu bod yn fodd i greu rhwydweithiau arloesol, anffurfiol a hwyliog i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith. Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”