S4C YN CADARNHAU NAD YW IS-DEITLAU DI-OFYN YN FWRIAD I’R DYFODOL

Mae S4C wedi cadarnhau i fudiad Dyfodol i’r Iaith nad yw cael is-deitlau agored yn rhan o’u bwriad wrth ddatblygu’r sianel.

Dywedwyd hyn mewn cyfarfod rhwng Dyfodol yr Iaith ac Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr mai ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o is-deitlau oedd nod yr wythnos o is-deitlau agored a gafwyd ddechrau mis Mawrth. Nid arbrawf oedd hyn ar gyfer y dyfodol, a’r bwriad yw parhau i gynnig is-deitlau dewisol. Erys y sefyllfa yr un fath ag o’r blaen gydag is-deitlau di-ofyn ar rai ail-ddarllediadau hwyr.

Wedi cyfarfod adeiladol, Mae’r mudiad yn fodlon na fydd y sianel yn ystyried is-deitlau di-ofyn Saesneg hyd y gellir rhagweld.

Manteisiwyd ar y cyfle i drafod sut y mae’r sianel yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn ogystal â chyfleoedd a heriau technoleg newydd.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol;

“ Roeddem yn falch iawn o’r cyfle hwn i drafod gwaith a chynnyrch y sianel gyda’i Phrif Weithredwr. Yn amlwg, mae ganddi rôl allweddol i’w chwarae mewn hyrwyddo’r iaith a’n diwylliant. Bu’n gyfle hefyd i ategu ein cefnogaeth i ddarlledu cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn cyfrannu ein sylwadau fel rhan o’r Adolygiad sydd ar y gweill.“

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU GWERTHUSIAD AR ADDYSG GYMRAEG Y LLYWODRAETH, AC YN EDRYCH YMLAEN AT GYNNYDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Gwerthusiad ar Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth.  Mae’r Gwerthusiad yn dangos yn glir fod gan y Llywodraeth bolisïau cadarnhaol ar y naill law, ond ar y llall mae’n profi nad yw’r Llywodraeth wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau.

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn derbyn Cynlluniau gwan gan Awdurdodau Lleol, sy’n golygu nad yw rhai siroedd wedi symud un cam ers deng mlynedd. Medd y Gwerthusiad, “gwelwyd diffyg blaengynllunio strategol ar gyfer cefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ymysg nifer o awdurdodau lleol a darparwyr”.

Mae’r Gwerthusiad yn ei gwneud yn glir nad oes cynllunio addysg Gymraeg wedi digwydd at sail ymateb i’r galw, sydd yn un o egwyddorion Strategaeth y Llywodraeth.

Mae’r Gwerthusiad yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru “nodi’n glir ei disgwyliadau ar bartneriaid gweithredu i flaengynlluio’n bwrpasol i gynyddu darpariaeth, a lle’n briodol, symbylu twf yn y galw er mwyn gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen i Lywodraeth nesa Cymru’n cywiro aneffeithiolrwydd y gorffennol ac yn rhoi prosesau ar waith fydd yn sicrhau cynnydd addysg Gymraeg.

 

DYFODOL I’R IAITH YN GALW AM GYFARFOD GYDAG AWDURDOD A PHRIF WEITHREDWR S4C I ADFER YMRWYMIAD Y SIANEL I HYRWYDDO’R GYMRAEG

Yn dilyn ymgyrch ddiweddar S4C i osod isdeitlau gorfodol Saesneg ar rhai rhaglenni, mae Dyfodol i’r Iaith wedi gofyn am gyfarfod gydag Awdurdod a Phrif Weithredwr y sianel.

Mae’r mudiad yn gobeithio bydd cyfarfod o’r math yn gyfle i leisio eu pryder ynglŷn â chyfeiriad polisi diweddar y sianel, sy’n tanseilio’r genhadaeth greiddiol o ddarparu pau naturiol i’r iaith Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am hepgor unrhyw gynlluniau pellach mewn perthynas ag isdeitlau gorfodol ac am ddarpariaeth gytbwys a dewisol o isdeitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Byddai’r cyfarfod hefyd yn gyfle i leisio pryder ynglŷn â defnydd cynyddol y sianel o’r Saesneg, yn enwedig mewn dramâu a rhaglenni ffeithiol.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“ Bu ymgyrch ddiweddar S4C i osod isdeitlau Saesneg gorfodol yn fethiant, gyda gwylwyr, a gwylwyr ifanc yn enwedig, yn mynegi gwrthwynebiad ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth y glir nad yw gwylwyr yn fodlon gweld y Gymraeg yn cael ei thanseilio. Byddwn ninnau fel mudiad yn pwyso ar S4C i fabwysiadu polisi goleuedig, sy’n hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg fel prif egwyddor y gwasanaeth.”