GOFYN I AWDURDOD S4C GWRDD AR FRYS I GANSLO YMGYRCH IS-DEITLAU SAESNEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi beirniadu arbrawf pum niwrnod S4C i osod is-deitlau Saesneg yn ddiofyn ar rai o’i rhaglenni mwyaf poblogaidd, ac mae’r mudiad yn galw ar Awdurdod y sianel i gyfarfod ar frys i ganslo’r ymgyrch wallus hon.

Wrth dderbyn pwysigrwydd is-deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg i rai gwylwyr, mae’r mudiad yn bryderus iawn fod y Saesneg yn cael ei gorfodi ar un o beuoedd allweddol y Gymraeg. Mae’n amlwg hefyd fod yr is-deitlau awtomatig Saesneg yn amharu’n sylweddol ar brofiad gwylio siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

” Daeth yn amlwg mai methiant llwyr bu’r arbrawf o’r cychwyn. Mae’r ymatebion fyrdd ar wefannau cymdeithasol, yn enwedig gan bobl ifanc, cynulleidfa’r dyfodol, yn brawf o hyn .Pryder mawr pellach yw bod rhai cyhoeddiadau’n dilyn y rhaglenni wedi bod yn Saesneg, gan newid iaith y sianel a thanseilio rheswm ei bodolaeth. Mae’r sawl sy’n mwynhau ac yn disgwyl y Gymraeg yn cael eu siomi, a dysgwyr yn colli’r profiad gwerthfawr o gael eu trochi yn yr iaith.

Byddwn yn galw ar S4C i ail-ystyried yr arbrawf gwallus hwn, gan adfer a hyrwyddo dewis i’w gwylwyr o safbwynt is-deitlau.”

YMATEB DYFODOL I’R MAP AWDURDODAU LLEOL NEWYDD

Wrth dderbyn yr her sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am ystyriaeth ddwys i’r Gymraeg drwy gydol y broses o ail-lunio ffiniau’r awdurdodau newydd.

Mae’n broses sy’n cynnig cyfleoedd a bygythiadau i hyrwyddo’r Gymraeg o safbwynt ei statws cyhoeddus, darparu gwasanaethau, a sefydlu gweinyddiaeth a gweithlu lle rhoddir pwyslais a gwerth dyledus i’r iaith.

Mae’r ffiniau a gyhoeddwyd heddiw yn gosod her i gynyddu defnydd y Gymraeg ar draws yr awdurdodau newydd, a bydd Dyfodol yn parhau i lobio a chyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn hytrach nag unrhyw ddirywiad yn sgil cyhoeddi’r map diwygiedig.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n hanfodol bwysig i ni warchod y gwaith da a gyflawnwyd eisoes, a thrwy hyn osod sylfaen ar gyfer rhannu a chynyddu ymarfer da.

Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Dylid ystyried yn ofalus pa ffiniau fyddai’n addas er mwyn hyrwyddo gweinyddiaeth mewnol cyfrwng Cymraeg. Mae dadl gref o safbwynt polisi iaith o blaid cael tri cyngor yn y gogledd: Gwynedd a Môn, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.”

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU MWY O GANOLFANNAU IAITH

Rhoddodd Dyfodol i’r Iaith groeso cynnes i ddatganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd £1.5 miliwn ar gael i sefydlu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

Ariannir prosiectau ym Môn, Caerdydd, Tregaron, Bangor, Aberteifi a Phontardawe.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod canolfannau o’r math yn allweddol bwysig i adnewyddiad y Gymraeg. Dengys llwyddiant y canolfannau a sefydlwyd eisoes eu bod yn fodd i greu rhwydweithiau arloesol, anffurfiol a hwyliog i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith. Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”