Y GYMRAEG YN HAEDDU GWELL: DYFODOL I’R IAITH YN GALW AM ADOLYGIAD CYLLID

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gyllideb y Llywodraeth. Daeth yn amlwg na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Gymraeg yn ystod 2020-21, fel y nodwyd ym mhapur Gweinidog y Gymraeg.  Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod hyn yn brin iawn o’r hyn sy’n angenrheidiol i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

‘Er bod papur y Gweinidog yn ymdrin â nifer o feysydd gweithredu hanfodol, mae’r diffyg cyllid ychwanegol yn golygu y byddwn yn sefyll yn yr unfan neu’n syrthio’n ôl. Mae’r targedau ieithyddol yn galw am gynllunio gofalus a buddsoddiad hirdymor, ond yn hytrach na hynny, erys y Gymraeg, fe ymddengys, yn fater ymylol y mae modd ei hesgeuluso.

Bydd y Llywodraeth yn fuan yn penodi arbenigwr iaith i lywio rhaglen cynllunio iaith y Llywodraeth ac rydyn ni’n galw ar bwy bynnag a benodir i gynnal arolwg anghenion ar frys gan nodi’r cyllid fydd ei angen i fynd i’r afael â’r anghenion.

Ein barn ni yw bod rhaid rhoi blaenoriaeth i ddysgu’r Gymraeg mewn gweithleoedd – yn enwedig ym maes gofal plant, addysg a llywodraeth leol.  Yna mae’n rhaid cael rhaglen uchelgeisiol o brosiectau cymunedol i’w gwneud yn haws i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn eu gwahanol ardaloedd.

Mae’n bryder i ni hefyd nad oes arian cyfalaf ar gael i’r Gymraeg.  Mae angen rhoi blaenoriaeth hefyd i raglen o hyrwyddo Canolfannau Cymraeg, a does dim modd gwneud hyn heb gymorth cyfalaf.’

Bydd y mudiad eleni’n pwyso am gyllid digonol i raglen gynhwysfawr ar gyfer cynllunio adferiad y Gymraeg ac mae am gydweithio gyda’r Llywodraeth i gyflawni hyn.

CYLLIDEB DDRAFFT 2020 – 21: YMATEB DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Llywodraeth, yn sgil y dyraniad ariannol ar gyfer 2020-21, i ddatgelu rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwariant ar y Gymraeg. Yn benodol, mae’r mudiad eisiau gwybod sut bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle yng ngwahanol gynlluniau’r Llywodraeth, ac yn enwedig:

  • Gofal plant: sut bydd y Llywodraeth yn paratoi hyfforddiant ieithyddol digonol i ddarparwyr?
  • Addysg bellach: yr un yw’r cwestiwn sef, sut bydd y Llywodraeth yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth ieithyddol ddigonol i fyfyrwyr fydd yn aros yng Nghymru a chyfrannu ar yr economi leol?

Dywedodd Heini Gruffudd:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am fanylion ariannol y meysydd hyn gan mai’r rhain fydd yn sefydlu sail gadarn i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd addysg, yn y gymuned a’r gweithle.”

 

 

DYFODOL YN GALW AM WARIANT AR ADDYSG GYMRAEG I RIENI

Ymddengys yn debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £400 miliwn yn sgil yr arian a glustnodir i Loegr ar gyfer addysg, ac mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am i gyfran o’r arian hwn gael ei glustodi ar gyfer cynorthwyo rhieni plant oedran ysgol i ddysgu’r Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Caderiydd y mudiad:

“Rydym wedi gofyn i’r Prif Weinidog, y Gweinidog Addysg a Gweinidog y Gymraeg neilltuo £10 miliwn o’r arian hwn ar gyfer annog rhieni i ddysgu’r Gymraeg, ac i’r gwaith gael ei weinyddu trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Gall yr arian dalu am gyrsiau i rieni sy’n ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref.  Bydd hyn yn hwb i blant sy’n dysgu’r iaith, mewn ysgolion Cymraeg neu fel arall, ac yn gymorth tuag at y nod o gael rhagor o gartrefi Cymraeg. Credwn fod sefydlu’r Gymraeg ar yr aelwyd yn allweddol i ffyniant y Gymraeg, ac y byddai’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli gwerth aruthrol i’r Gymraeg.”