Addysg Gymraeg ym Mhowys: Ymateb Dyfodol

Yn dilyn sylwadau Sian James ar Golwg 360, gweler isod sylwadau Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd ar sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhowys:

Mae gan Bowys record eitha trychinebus o ran datblygu addysg uwchradd Gymraeg. Mae’r Sir yn gyson wedi gwrthod wynebu’r angen am ddilyniant o ysgolion cynradd Cymraeg.  Yn ne’r sir mae nifer o blant yn mynd i siroedd eraill, i Ystalyfera a Rhydywaun, i gael addysg uwchradd Gymraeg gan fod ysgol uwchradd Aberhonddu wedi methu darparu’n deilwng.

Yng ngogledd y sir, ar y llaw arall, mae Ysgol Llanfaircaereinion wedi datblygu ffrwd Gymraeg hynod lwyddiannus.  Mae angen i’r Sir gydnabod hyn a derbyn bod addysg uwchradd gyflawn Gymraeg ar gael yn Llanfaircaereinion. Yn ne’r Sir mae angen i Ysgolion Llanfair-ym-muellt ac Aberhonddu ddod at ei gilydd i gyflwyno addysg Gyrmaeg, ond dewis eilradd yw ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Mae rhaid cydnabod bod gan y Sir broblemau am fod y boblogaeth yn wasgaredig, ond mae’n hen bryd i’r Sir gydnabod cryfderau rhai ysgolion uwchradd a datblygu ar sail hyn.

 

 

YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”

GOFYN AM ESBONIAD GAN Y GWEINIDOG ADDYSG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn i’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis,  egluro ei agwedd tuag at Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth. Mae hyn yn dilyn ei ymateb i’r Comisiynydd Iaith, Meri Huws, pan ddywedodd nad oes angen bod yn glwm wrth ffigurau.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae angen i’r Gweinidog Addysg ddweud yn glir beth yw ei farn am Strategaeth Addysg Gymraeg ei Lywodraeth ei hun.  Mae’r Strategaeth yn nodi targedau penodol ynglŷn â thwf addysg Gymraeg, ond nid yw’r Gweinidog fel pe bai’n poeni am hyn.”

“Tybed ydy’r Gweinidog wedi ymygynghori gyda’r Prif Weinidog am hyn, sydd hefyd yn gyfrifol am yr iaith?”

“Mae’r Gweinidog Addysg yn honni y bydd y cwricwlwm newydd yn newid ein ffordd o feddwl am addysg Gymraeg.  Ydy hyn yn golygu diwedd ysgolion Cymraeg?  Yng Nghymru, bu pob cynnig ar ddysgu’r Gymraeg mewn dosbarthiadau dwyieithog yn fethiant o’u cymharu â dosbarthiadau Cymraeg.  Mae angen i Huw Lewis ddweud yn glir beth yw ei fwriadau.”

Mae Dyfodol yn gweld twf addysg Gymraeg yn un o’r elfennau pwysicaf yn adfywiad y Gymraeg, ac mae digon o dystiolaeth bod rhieni Cymru’n galw am hyn.