“…mae’n ymddangos bod Prifysgolion Cymru, y Gymraeg, a’r myfyrwyr eu hunain yn cael eu sathru yn ôl y galw am ragoriaeth elît ac addysg Prifysgol y tu hwnt i Gymru, heb ddigon o ystyriaeth i anghenion lleol na’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer addysg uwch. Mae’r anghydbwysedd yn peri gofid, mae’n awgrymu bod rhai mentrau fel Academi Seren ‘uwchlaw’ beirniadaeth tra bod y rhelyw yn cael eu hesgeuluso’n llwyr a’u hamddifadu o arian sy’n cael ei gyfeirio o’r newydd i Academi Seren. Dylai hyn oll beri inni ofyn: pwy yn union y mae’r Cynllun hwn yn ei wasanaethu, a beth yw’r pris gwirioneddol i Gymru, y Gymraeg ac i Brifysgolion Cymru?…”
Mwy yma:
Datganiad i’r Wasg – beirniadu cynllun model newydd Academi Seren