Dyfodol am Chwyldroi Darlledu Cymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am newid sylfaenol yn y modd y rheolir darlledu yng Nghymru. Gyda Llywodraeth San Steffan yn bygwth dileu’r drwydded deledu sy’n cyllido Radio Cymru ac S4C, mae Dyfodol am weld trosglwyddo rheolaeth am holl ddarlledu Cymru i awdurdod darlledu newydd dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.

Dywed Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad:

“Fel gwasanaeth cyhoeddus i bawb gyda phawb yn talu amdano trwy’r drwydded y cynhaliwyd y BBC am ganrif ei bodolaeth. Cyfanswm sylweddol y tâl cyffredinol hwnnw sydd wedi sicrhau’r cyllid digonol i gynnal gwasanaeth llwyddiannus y mae gweddill y byd wedi ceisio efelychu ei safon. Mewn byd sydd bellach yn derbyn ei gyfryngau o lu o ffynonellau amrywiol ac amheus eu cymhelliad yn aml, darlledu cyhoeddus yw’r ffynhonnell fwyaf dibynnol o ddigon am newyddion ymchwiliol a di-duedd.

“Fel gwasanaeth cyhoeddus, hefyd, y sefydlwyd C4 ac S4C ym 1981, er bod cyfran fechan o’u cyllid i ddod o fusnes masnachol. Yn fasnachol, ni ellid byth freuddwydio am ddarlledu yn Gymraeg. Ni ellir, ychwaith, ddibynnu ar lywodraeth bresennol San Steffan i gyllido S4C yn ddigonol o gofio’r toriadau real cyson a wnaed yng nghyllideb y sianel dros y degawd diwethaf.

“Gan mai llywodraeth San Steffan sy’n rheoli darlledu a chyfathrebu’r DG, y nhw sy’n dynodi cost trwydded y BBC a phenderfynu tynged C4 ac S4C.  Y llywodraeth, felly, a fynnodd fod prif gyllid S4C erbyn hyn i’w gysylltu’n uniongyrchol â thrwydded y BBC.  Dyna’r cam gwag cyntaf yn ein barn ni, ac er bod S4C ei hunan wedi croesawu’r sicrwydd a ddeuai o hynny, mae dibyniaeth ariannol S4C ar y gorfforaeth Brydeinig yn peryglu dyfodol cyllideb ac annibyniaeth golygyddol y sianel Gymraeg.

“Gyda’r llywodraeth Geidwadol bresennol am dorri crib annibyniaeth y BBC, sy’n rhy feirniadol ohonynt yn eu barn nhw, eu polisi bellach yw rhewi cost y drwydded am ddwy flynedd, ei gynyddu ar sail chwyddiant yn unig wedyn, a bygwth ei ddileu yn llwyr yn 2027. Mae’r rhewi am ddwy flynedd yn newyddion drwg i bob gwasanaeth, Radio Cymru’n uniongyrchol ac S4C yn anuniongyrchol. Ond byddai dileu’r drwydded yn llwyr yn tanseilio holl fodolaeth y gwasanaeth cyhoeddus gan y byddai unrhyw ddull arall o gyllido yn dibynnu ar ymateb y gwylwyr i gynnwys y rhaglenni. Yn anorfod, rhaglenni poblogaidd fyddai’n denu gwylwyr i dalu amdanynt, a’r rhaglenni safonol sy’n costio arian ac amser fyddai’n cael eu cwtogi i ddifancoll. Gyda chynulleidfa leiafrifol a heb gyllideb ddigonol, diflannu fyddai’r rhaglenni hynny yn bur fuan.

“Yng Nghymru ac yn y Gymraeg, mae’n amlwg na fyddai niferoedd gwylwyr yn cyfiawnhau unrhyw fath o wasanaeth sylweddol ar deledu na radio, BBC Wales nag S4C, Radio Wales na Radio Cymru.  Peidiwn â chael ein dallu gan y cyfraniad o £7.5 miliwn ychwanegol i S4C am y chwe blynedd nesaf i ddarparu arlwy ar-lein. Nid yw hynny’n ddegfed rhan o gyllid blynyddol S4C, ac mae’r £88 miliwn hwnnw wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd ac effaith hynny i’w weld ar ein sgriniau yn feunosol.

“O ran dyfodol y Gymraeg, felly, byddai tynged yr iaith yn dilyn dirywiad ei defnydd cyhoeddus ar y cyfryngau yng nghartrefi’n gwlad. Mewn gair, mae dyfodol yr iaith yn ddibynnol ar ddyfodol y defnydd cyhoeddus gweladwy a chlywadwy ohoni. S4C yw prif ffynhonnell y Gymraeg ar ein haelwydydd a’i chyfraniad i ddatblygiad iaith plant yn anfesuradwy. Ar aelwydydd di-Gymraeg, rhaglenni Cyw sy’n atgyfnerthu gwaith ein ysgolion meithrin a chynradd wrth drosglwyddo’r iaith i ymwybyddiaeth naturiol ein plant.”

Mae Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i weithredu’r camau canlynol fel rhan o’u cytundeb i ddatblygu’r cyfryngau yng Nghymru. Nid cyfryngau newydd yn unig a ddylid eu datblygu yn y cytundeb hwnnw, ond dylid gwarchod a datblygu’r cyfryngau presennol sy’n berthnasol i drwch y Gymry Gymraeg.

  1. Dylid trosglwyddo rheolaeth dros y cyfryngau yng Nghymru i awdurdod annibynnol Cymreig dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.
  2. Dylai dyfodol S4C fod yn rhydd o hualau’r BBC, fel corff annibynnol atebol i awdurdod darlledu newydd Cymreig gan dderbyn swm teilwng blynyddol ar sail chwyddiant o leiaf..
  3. Dylid gwarchod y gwasanaeth radio Cymraeg, a gan na all cyllid y BBC gynnal y gwasanaeth hwnnw’n ddigonol i’r dyfodol, dylid datgysylltu hwnnw o’r rhwydwaith Brydeinig a’i ddatblygu fel gwasanaeth Cymraeg annibynnol – unwaith eto’n atebol i awdurdod darlledu newydd Cymreig.

Ychwanegodd Eifion Lloyd Jones:

“Er y gall y camau hyn ymddangos fel chwyldro darlledu, ystyrier hyn: pa wlad arall ar wyneb daear sy’n fodlon gweld ei phrif gyfryngau cyfathrebu yn cael eu rheoli gan wlad arall? Pan fo chwyldro gwirioneddol mewn gwledydd, meddiannu’r cyfryngau yw blaenoriaeth yr arweinwyr newydd. Mae’r olion bwledi a welais ar furiau gorsafoedd darlledu dwyrain Ewrop yn dyst i hynny.  Galw am chwyldro heddychlon ydym ni, ond un a fyddai’n sicrhau dyfodol darlledu Cymraeg, a thrwy hynny ddyfodol yr iaith.”

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.