Dyfodol yn yr Eisteddfod

Mae cyfarfod cyhoeddus Dyfodol i’r Iaith yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ar ddydd Mawrth 6ed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 4pm.

Y cyfreithiwr Emyr Lewis, sy’n un o gyfarwyddwyr Dyfodol, sy’n traddodi araith ar “Gynllunio a’r Gymraeg”

Dywed Emyr Lewis bod rhaid cael sylfaen gref i ddiogelu’r iaith Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio, sy’n debygol o gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y sesiwn seneddol nesaf.

Meddai Mr Lewis: “Mae consensws cyffredinol fod angen hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol.  Os ydym yn derbyn bod datblygu yn gallu cael effaith, da neu ddrwg, ar yr iaith, yna mae angen sylfaen llawer cryfach na TAN 20 newydd os ydym ni o ddifrif.  Canllaw yn unig ydi o, ac mae’n ganllaw go amwys.”

“Diben cyfraith cynllunio yw rheoli datblygu tir gan bwyso ystyriaethau ehangach yn erbyn rhyddid y farchnad. Mae angen i les y Gymraeg fod yn un o’r ystyriaethau hynny ac mae’n rhaid rhoi’r pwysau priodol i ddiogelu lles y Gymraeg mewn materion cynllunio.” meddai Emyr Lewis.

Mae mudiad Dyfodol yn galw am rym statudol i’r TAN 20 newydd o dan y Ddeddf Cynllunio. Mae hefyd angen i’r Nodyn Cyngor Technegol gynnwys canllaw a methodoleg safonol er mwyn i awdurdodau lleol fedru mesur effaith unrhyw ddatblygiad posibl ar yr iaith Gymraeg.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *