Cyfarfod Cyffredinol Dyfodol

Daeth dros drigain o aelodau a chefnogwyr ynghyd yn Aberystwyth  ar yr 20fed o Hydref  ar gyfer cyfarfod cyffredinol mudiad iaith Dyfodol. Fe etholwyd Bethan Jones Parry yn ddiwrthwynebiad yn Llywydd cyntaf y mudiad.

Yn ogystal etholwyd deg o gyfarwyddwyr i’r mudiad fydd yn gweithredu fel pwyllgor gwaith. Y deg yw: Heini Gruffudd, Simon Brooks,  Elin Walker Jones, Elin Wyn, Emyr Lewis, Eifion Lloyd Jones, Meirion LLywelyn, Richard Wyn Jones, Huw Ll. Edwards ac Angharad Mair. Heini Gruffudd fydd cadeirydd y Bwrdd.

Fe gytunwyd hefyd y bydd Myrddin ap Dafydd, Cynog Dafis, Angharad Dafis a Robat Gruffudd yn aelodau craidd y mudiad. Ni fydd modd i’r mudiad newid ei amcan o weithredu er lles y Gymraeg heb cydsyniad yr aelodau craidd.

Yn ystod y diwrnod cafwyd cyflwyniad gan Kathryn Jones o Gwmni Iaith ar yr heriau sy’n wynebu maes cynllunio ieithyddol heddiw. Dywedodd bod gor bwyslais wedi bod ar weithredu o’r brig i’r llawr yn y gorffennol a tybed oedd gormod o ddibynniaeth ar Fwrdd yr Iaith i gymryd y cyfrifioldeb. Dywedodd bod angen ymryumuso siaradwyr Cymraeg i edrych ar eu anghenion eu hunain.

Yna cafwyd trafodaeth ar lobio a dylanwadu ar wleidyddion dan arweiniad Dr Elin Royles. Dywedodd Rebecca Williams o UCAC bod angen i Dyfodol bennu dau neu dri targed penodol a bod yn glir iawn beth yw’r amcanion hynny.

Yn ol Llyr Roberts, Cyfarwyddwr cwmni materion cyhoeddus Positif, mae dylanwadu ar wleidyddion yn gallu bod yn broses hir sy’n llyncu adnoddau ac amser. Awgrymodd hefyd bod angen cynghreirio gyda mudiadau eraill i gyrraedd y nod.

Cytunodd y tri ar y panel bod gwaith mawr i’w wneud i godi ymwybyddiaeth gweision sifil o fewn y llywodraeth o’r iaith Gymraeg.

Yn yr anerchiad olaf i’r cyfarfod dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru bod angen newid ieithwedd a meddylfryd o ran y mudiad iaith a bod rhaid cydnabod faint sydd wedi’i gyflawni hyd yma. Dywedodd bod gennym egin wladwriaeth ond nad yw’r  mudiad iaith wedi addasu i’r drefn newydd ac mae wedi methu defnyddio’r sefydliadau newydd i hybu achos y Gymraeg.

(Fe fydd fersiwn llawn o araith Richard Wyn Jones ar y wefan cyn hir.)

Daeth y cyfarfod i ben gyda thrafodaeth o’r llawr ar sut y dylai Dyfodol flaenoriaethu ei waith.