CATEGOREIDDIO YSGOLION YN ÔL Y DDARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG

Heini Gruffudd

25 Mawrth 2021

 

 

Rwy’n ymwybodol bod Dyfodol i’r Iaith a RhAG wedi gwneud sylwadau ar y ddogfen, yn bennaf er mwyn diwygio Categori 3 Ysgolion Uwchradd.

Nid yw Categori 3 Ysgolion Uwchradd yn cyfateb i’r categorïau 1 a 2A presennol, gan fod y rhain yn ymwneud â chyfrwng y dysgu i holl ddisgyblion yr ysgol o dan sylw.  Gwendid y Categori 3 newydd yw ei fod yn caniatáu i 30% o ddisgyblion yr ysgol astudio llai na 5 pwnc (neu’r hyn sy’n gyfatebol yn y Cwricwlwm newydd) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hyn yn agor y drws i nifer o ysgolion nad ydynt yn ysgolion categori 1 a 2A presennol honni eu bod yn ysgolion Categori 3, yr unig gategori y gall ysgolion Cymraeg berthyn iddo.

Mae’n glir y bydd dryswch yn codi, a gellir rhagweld y bydd ysgolion ac awdurdodau lleol yn camddehongli, yn fwriadol ne’n anfwriadol, yr hyn a ddisgwylir mewn ysgolion Categori 3.

Fy argymhelliad:

Mae angen cadw categori penodol ar gyfer ysgolion Cymraeg, sef ysgolion sy’n dysgu tua 80% neu ragor o’r cwricwlwm trwy’r Gymraeg i bob disgybl.  Yn yr hen gategorïau, yr ysgolion categorïau 1 a 2A oedd y rhain.  Gellid cyfuno’r ddau gategori yma i greu categori 3 (neu gategori 4 newydd?) a byddai modd rhannu’r categori yma’n gategori 4a a 4b, y ddau gategori’n ysgolion Cymraeg, h.y. yn gweithredu trwy’r Gymraeg, gyda 4a yn cynnig pob pwnc trwy’r Gymraeg a chategori 4b yn cynnig 80% neu ragor o’r pynciau trwy’r Gymraeg i bob disgybl.

Rhesymwaith:

  1. Mae’r Llywodraeth wedi derbyn mai ysgolion Cymraeg yw’r cyfrwng gorau o gyflwyno’r Gymraeg ac o ddatblygu sgiliau dwyieithog cyflawn:

Iaith Pawb, 2003:  Mae addysg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi ehangu’n gyson a dymuna Llywodraeth y Cynulliad annog y duedd hon. Cydnabyddir rôl hollbwysig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a dulliau trochi ieithyddol yn y broses o ddatblygu sgiliau dwyieithog cadarn ymhlith disgyblion.   t. 40

Iaith Fyw, Iaith Byw, 2012: Darparu addysg cyfrwng Cymraeg sydd wedi ysgogi’r cynnydd mwyaf yn nifer y bobl ifanc sy’n rhugl ac yn hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg … rydym yn bwriadu atgyfnerthu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg                 t. 15

Cymraeg 2050, 2017: Byddwn yn symud o fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn systematig a rhagweithiol…  Byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol ehangu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol t. 37-8

Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Rhaglen waith 2017-2021: Cynnydd yng nghanran y dysgwyr sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, o 22 y cant (sy’n seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith oed yn 2015/6) i 24 y cant (tua 8,400) erbyn 2021, a hynny er mwyn bod ar y trywydd iawn i gyrraedd 30 y cant (tua 10,500 ym mhob grŵp oedran) erbyn 2031 ac yna 40 y cant (tua 14,000 ym mhob grŵp oedran) erbyn 2050.     t. 12

Mae Categori 3 y darpar gategorïau newydd yn mynd yn groes i ddaliadau Llywodraeth Cymru ers ei sefydlu.

 

  1. Nid oes prawf bod ysgolion gyda darpariaeth iaith wannach na’r hyn a geir mewn ysgolion Cymraeg yn mynd i allu gweithredu mor effeithiol yn ieithyddol ag ysgolion Cymraeg.

Gwnaed arbrawf yn Abertawe yn yr 1980au trwy sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog, Ysgol Login Fach yn Waunarlwydd. Byddai’r Gymraeg yn gyfrwng pynciau am hanner diwrnod, a’r Saesneg am hanner diwrnod.  Y gobaith oedd y byddai’r ysgol hon yn ehangu’r rhai a fyddai’n caffael yr iaith.  Gwelwyd, erbyn i’r disgyblion hyn gyrraedd oed cychwyn yn Ysgol Gyfun Gwyr, nad oedd eu gafael ar y Gymraeg yn ddigon i ymdopi ag addysg uwchradd Gymraeg, ac yn 1991 penderfynodd y rhieni, trwy’r corff llywodraethu, droi’r ysgol yn ysgol gynradd Gymraeg.  Ers hynny mae nifer y disgyblion wedi cynyddu, ac maent yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Gwyr yn llwyddiannus.

Mae sawl astudiaeth wedi nodi’r anawsterau wrth gynnal model ysgol ddwyieithog, neu ddwy neu dair ffrwd ieithyddol.

Symudiad Disgyblion rhwng Cymraeg a Chymraeg a Chymraeg Ail Iaith, adroddiad i ACCAC,  Cyngor Iaith Llais y Lli, Heini Gruffudd, Dr Elin Meek, Catrin Stevens, 2004, Fersiwn Cryno, t. 31-2:

  • Diffyg dilyniant sylweddol yn sgil penderfyniadau ysgolion unigol
  • Canfyddiad rhieni am gyfrwng addysg yn amrywio’n fawr
  • Y prif broblemau yng Ngheredigion, Caerfyrddin a Phenfro
  • Diffyg hyder rhieni ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn sgiliau ieithyddol eu plant

Iaith y Dyffryn Arolwg o’r Gymraeg ymysg rhieni a disgyblion Ysgolion Pantycelyn, Llanymddyfri a Thregib, Llandeilo, Heini Gruffudd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Gweithgor Hyrwyddo Addysg Gymraeg Tywi-Cothi a Phrifysgol Cymru Abertawe, 2002 t. 24 ac eraill:

  • Dylanwad mewnfudo o Loegr a’r tu allan yn amlwg
  • Cydberthynas rhwng prif iaith aelwydydd a dewis astudio’r Gymraeg yn iaith gyntaf
  • Canfyddiad rhieni o gyfrwng addysg eu plant yn niwlog, ac yn arwain at leihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio’r Gymraeg yn iaith gyntaf
  • Roedd symud o hyd at 40% o ddisgyblion iaith gyntaf at fod yn ddisgyblion ail iaith

Dwyieithrwydd Anghyflawn, Astudiaeth o’r defnydd o’r Gymraeg wrth drosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd mewn ardal draddodiadol Gymraeg, Peter Hallam, Heini Gruffudd, Prifysgol Cymru Abertawe a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1999:

  • Gwahaniaeth rhwng polisi ysgol a chanfyddiad disgyblion
  • Mympwy athrawon o ran defnyddio iaith
  • Anawsterau yn sgil ffrydio
  • Symud o’r Gymraeg ar bob cam dewis iaith
  • Penodi athrawon heb fedrau ieithyddol addas
  • Gwybodaeth annelwig rhieni
  • Cydberthynas rhwng aelwydydd Cymraeg a dewis astudio’r Gymraeg yn iaith gyntaf
  • Diffyg hyder yn y Gymraeg

Yr hyn a ddaw’n amlwg yn yr astudiaethau hyn yw bod llu o ffactorau’n dylanwadu ar sut mae ysgol ddwyieithog neu ysgol ddwy neu dair ffrwd yn mynd ati i gyflwyno’r Gymraeg a phynciau trwy’r Gymraeg.  Mae rhai’n ffactorau ymarferol, fel diffyg sgiliau ieithyddol athrawon, polisi ysgol yn amrywio o bolisi’r sir ac anawsterau ffrydio yn sgil diffyg niferoedd.  Mae eraill yn ffactorau llai amlwg, fel diffyg hyder rhieni a disgyblion yn y Gymraeg.

Mae’n debygol iawn na fydd modd osgoi llawer o’r ffactorau hyn mewn ysgolion dwyieithog neu ddwy ffrwd yn y siroedd lled Gymraeg, ac mae’n amlwg bod angen arweiniad cadarn fel bod yr ysgolion hyn yn gweithredu’n fwy effeithiol.

Niweidiol, fodd bynnag, fyddai tynnu ysgolion Cymraeg i mewn i’r sector lled Gymraeg yma. Mae angen categori ysgolion Cymraeg diamwys.  Lle ceir patrwm diamwys o addysg Gymraeg, mae niferoedd disgyblion yn tyfu, ac mae gweledigaeth athrawon am eu hysgol yn debygol o fod yn gadarn.

Mae dogfen gategoreiddio’r Llywodraeth yn honni bod y system newydd yn ‘symleiddio’ pethau. Mae’n deg honni mai’r gwrthwyneb fyddai’n digwydd yn achos ysgolion Cymraeg.

  1. Gwendid categorïau anstatudol

Gwelaf fod y canllawiau am fod yn anstatudol.  Meddir (t. 21) mai ‘awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am osod ysgolion yn y categorïau newydd yn y lle cyntaf’.  Mae’n hysbys bod gwahanol awdurdodau lleol yn dehongli cyfrwng addysg yn wahanol, ac â blaenoriaethau gwahanol.  Mae hyn yn agor y drws i ddryswch.  Meddir wedyn y gellir gosod categori dros dro, a bod modd i awdurdod lleol gytuno ag ysgol.  Mae modd hefyd i ysgolion anghytuno ag awdurdod lleol (t. 22).  Ceir mewn rhai siroedd (e.e. Caerfyrddin a Gwynedd) mai nifer fach o ysgolion sy’n torri ar draws polisi ieithyddol y sir.  Nid yw’r categorïau hyn, o fod yn anstatudol, yn mynd i ddatrys y gwendid yma.

  1. Symud tuag at ysgolion Cymraeg / cyfrwng Cymraeg

Tra’n cydymdeimlo â nod y ddogfen gategoreiddio bod angen symud ysgolion tuag at gyflwyno rhagor o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, di-os bod angen hyn mewn ysgolion Saesneg.  Yng nghyd-destun diweddar Sir Gâr, mae modd gweld sut y gall hyn ddigwydd, ond fe welir hefyd sut gall hyn greu anghydfod.

Rwy’n tybio bod llunwyr y ddogfen wedi troi eu golygon at y system addysg yng Ngwlad y Basgiaid lle mae polisi o symud ysgolion o fod yn rhai Sbaeneg, tuag at fod yn rhai Sbaeneg gyda Basgeg yn bwnc, at rai rhannol Sbaeneg a Basgeg ac yna at fod yn ysgolion Basgeg gyda Sbaeneg yn bwnc.

Bu mesur helaeth o lwyddiant yn y system yng Ngwlad y Basgiaid.  Tyfodd Model D (ysgolion Basgeg yno) o fod â 12% o ddisgyblion y wlad yn 1982-3 i fod â 38% o ddisgyblion y wlad yn 1998-9 (Basque in Education, Nick Gardner, Vitoria-Gasteiz, 2000, t. 66-7) a bellach y mae 50.2% yn y sector hwn (https://en.wikipedia.org/wiki/Basque_education_system, cyrchwyd 25.3.2021).

Nid yw Gwlad y Basgiaid wedi dileu Model D. I’r gwrthwyneb, y mae wedi ei gadw a sicrhau bod rhagor o blant yn ei fynychu.

I ddilyn modelau Gwlad y Basgiaid, mae angen cadw Categori penodol ar gyfer addysg Gymraeg a sicrhau ei fod yn cynyddu.

  1. Damcaniaeth ieithyddol

Mae’r syniad o beuoedd iaith wedi’i dderbyn gan academyddion ym maes cynllunio iaith. Gall pau iaith fod yn aelwyd, gwaith, bywyd cymdeithasol, neu, wrth gwrs, ysgol ac addysg. (gw. Reversing Language Shift, Joshua Fishman, Multilingual Matters, 1991, t.44-5, a gweler trafodaeth Suzanne Romain ar beuoedd a dewis iaith yn Language in Society, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000, t. 32-63).  Mae gan sut mae iaith leiafrifol yn cael ei thrin mewn pau ieithyddol ddylanwad ar y defnydd o’r iaith honno, ac o le’r iaith ym mywyd unigolyn.

O gofio bod y rhan fwyaf o ddisgyblion ysgolion Cymraeg yn byw mewn teulu di-Gymraeg, ac yn byw mewn ardaloedd llai Cymreig, yr ysgol yw’r unig bau yn eu bywyd lle gall y Gymraeg fod yn drech na’r Saesneg.

Ysgolion Cymraeg yw’r unig fodel o ysgolion sy’n gallu cyflwyno i ddisgyblion bau Gymraeg gyflawn.  Dim ond mewn ysgolion Cymraeg mae gweithgareddau allgyrsiol, bywyd yr ysgol, chwaraeon ac ati, yn digwydd trwy’r Gymraeg.  Mae’r bywyd hwn, y tu allan i wersi ffurfiol, yn allweddol wrth ddatblygu rhwydweithiau rhyngbersonol disgyblion.  Wn i ddim ai hyn a olygir gan ‘ethos’ yn nogfen yr ymgynghoriad, sy’n air braidd yn annelwig.  Mae angen cydnabod pwysigrwydd pau’r ysgol i ddatblygiad iaith disgyblion a derbyn, felly, mai ysgol Gymraeg yn unig sy’n gallu darparu pau gyflawn Gymraeg, sy’n garreg sylfaen dwyieithrwydd cyflawn.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.