YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 8: CYNLLUNIO IEITHYDDOL

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw CYNLLUNIO IEITHYDDOL.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â’r angen am Gynllunio Ieithyddol. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 

PWNC TRAFOD 8: CYNLLUNIO IEITHYDDOL

 Dyma farn Dyfodol:

Er mwyn rhoi adferiad y Gymraeg yn iaith genedlaethol ar waith drwy broses o gynllunio ieithyddol, mae angen gweithredu yn y prif feysydd canlynol fel y soniwyd yn y testunau a drafodwyd eisoes: lledaenu dealltwriaeth; y blynyddoedd cynnar; addysg statudol, bellach ac uwch; datblygu’r gweithlu; hyrwyddo defnydd; demograffeg, technoleg a’r cyfryngau.

 Mae llawer o’r pethau y cyfeiriwyd atyn nhw wedi, ac yn, cael eu gwneud, yn greadigol, yn ddyfeisgar, yn rhagorol, a dyna pam y mae’r Gymraeg mewn cystal cyflwr ag yw hi. Ond dydyn nhw erioed wedi cael eu gwneud gyda’i gilydd mewn ffordd strategol.

Ystyr cynllunio ieithyddol yw bod y gweithredu’n digwydd mewn modd integredig, yn gyfannol, yn gyd-gydgysylltiol, fel bod pob agwedd yn atgyfnerthu’i gilydd. Mae eisiau parhad, dal ati, dros gyfnod estynedig o amser (30 mlynedd i ddechrau, er mwyn cyrraedd y miliwn). Mae eisiau cysondeb, ynghyd ag arloesi, arbrofi a gallu i ymateb i amgylchiadau newydd. Y cwestiwn yw, pwy sy’n mynd i wneud hyn?

YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR SUT I SICRHAU CYNLLUNIO IEITHYDDOL INTEGREDIG A CHYFANNOL? PWY DYLAI FOD YN GYFRIFOL AM HYN?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *