Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn

Ar ddydd Llun 23 Tachwedd, bu dirprwyaeth o’r mudiadau iaith a gynrychiolir ar Bwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn yn cyfarfod y swyddogion a’r cynghorwyr sy’n gyfrifol am Gynllun Datblygu Lleol y ddwy sir . Roedd Pwyllgor yr Ymgyrch yn cynnwys aelodau o Gylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r cynllun i ddarparu tir ar gyfer bron i 8,000 o dai newydd wedi derbyn ymateb cryf gan y mudiadau oherwydd y pryder y bydd yn niweidio sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau’r ddwy sir. Mae Pwyllgor yr Ymgyrch wedi tynnu sylw at ddiffygion yn y modd y mae’r cynghorau’n arfarnu’r Cynllun o ran ei effaith ar y Gymraeg. Y diffyg sylfaenol, yn ôl y mudiadau, ydi’r ffaith na chomisiynwyd arbenigwyr allanol i gynnal asesiad iaith annibynnol.

Ar ddiwedd y cyfarfod,  cafwyd y datganiad canlynol gan bwyllgor yr ymgyrch:

“Tynged y Gymraeg fel iaith gymunedol yng Ngwynedd a Môn ydi sail ein pryderon ac effeithiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar ei sefyllfa. Digon ydi dweud  bod y Gymraeg yn yr argyfwng mwyaf yn ei hanes, gyda nifer y cymunedau sydd â thros 70% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 59 i 49 rhwng 2001 a 2011. Ar wahân i un gymuned yn sir Conwy, mae’r hyn sy’n weddill o gymunedau o’r fath yn gyfyngedig i Wynedd a Môn

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol yn pwysleisio bod rhaid i’r tystiolaeth a ddefnyddir yn sail i’r Cynllun Datblygu Lleol fod yn ‘gadarn’. Amlygwyd yn ein dogfen sylwadau i’r ymgynghoriad dros 40 o ddiffygion yn cynnwys absenoldeb tystiolaeth, tystiolaeth annigonol, tystiolaeth annibynadwy ac anghysondebau.

“ Ein cais ni i Gyngor Gwynedd a Chyngor Môn heddiw ydi i’r cynghorwyr a’r swyddogion sy’n arwain gyda’r Cynllun roi ystyriaeth deg a chyflawn i’n sylwadau arno, a mynd ati i gywiro’r diffygion sydd ynddo fel na fydd o ddim yn cael effaith negyddol ar sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gwbl hanfodol bod polisïau tai a chynllunio yn cyfrannu i atgyfnerthu’n hiaith.”

Ddiwedd Ionawr, bydd y Pwyllgor sy’n gyfrifol am y Cynllun Datblygu Lleol yn penderfynu ar yr ymatebion i’r holl sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ac yna, bydd fersiwn terfynol y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd archwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn nesaf, ac mae cynrychiolwyr y mudiadau iaith wedi cofrestru eu dymuniad i wneud cyflwyniadau llafar i’r archwiliad. Bydd ffurf derfynol y Cynllun yn cael ei fabwysiadu ddechrau 2017.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.