Cymraeg i Oedolion

ANGEN DYBLU GWARIANT I WAITH CYMRAEG I OEDOLION

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhoi croeso i’r drefn newydd i waith Cymraeg i Oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd trefn ganolog yn cychwyn ym mis Medi 2015.

“Roedd cael trefn ganolog yn un o argymhellion Dyfodol i’r Iaith i Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith. “Wrth gael Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, bydd modd i’r maes gael ei arwain gan arbenigwyr.”

Ond mae Dyfodol i’r Iaith yn poeni na fydd gan y Sefydliad ddigon o arian i ddatblygu’r maes fel y dylai.

“Mae’n drueni mawr, wrth ad-drefnu, bod y Llywodraeth yn torri’r arian fydd ar gael i Gymraeg i Oedolion gan 8%.  Mae’r gwariant ar y maes yn awr ryw draean o’r hyn ydyw yng Ngwlad y Basgiaid, sydd mewn sefyllfa debyg i ni. Os ydyn ni o ddifri am roi bywyd newydd i’r Gymraeg ar draws Cymru mae angen i ni ddyblu’r gwariant, nid ei gwtogi,” meddai Heini Gruffudd.

“Dim ond trwy wario digonol y bydd modd i Gymraeg gael ei dysgu i oedolion yn drylwyr, gyda digon o oriau dysgu, ac mewn digon o fannau lleol.”

“Rydyn ni’n croesawu’r pwyslais ar y Gymraeg mewn teuluoedd, ond mae angen cael trefn addas i ddatblygu byddin o athrawon yn ein hysgolion, a llu o weithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Ym mis Hydref 2012 cyflwynodd Dyfodol i’r iaith naw o argymhellion, gan gynnwys dyblu’r gwariant ar Gymraeg i Oedolion.

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Cynnig rhaglenni dysgu hyd at 1200 o oriau
  • Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg
  • Rhaglen rhyddhau dysgwyr o’u gwaith

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *