Mae Dyfodol i’r Iaith yn agored i bawb sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu.
Ei nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau’n fater byw ar yr agenda gwleidyddol.
Mae Dyfodol yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol yn unig ac yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill i roi’r Gymraeg wrth galon eu polisïau a’u gweithgareddau.
Ymunwch â ni ar y daith.