Llythyr Cynog Dafis, Llywydd Dyfodol I’r Iaith, at Golwg

Y Golygydd
Golwg

Tachwedd 12fed, 2025

Diflas oedd gwrando ar Guto Harri eto fyth (Pawb â’i Farn, Radio Cymru) yn amddiffyn Cynllun Seren ac yn annog ein hieuenctid i adael Cymru er mwyn ‘lledu’u hadenydd’,  ‘ehangu’u gorwelion’ a cheisio gloywach nen nag sydd ar gael o fewn ffin hen wlad eu tadau.

Dyna i chi weledigaeth gyfyng, hen-ffasiwn, am botensial y genedl fach hynod hon ar gyrion gorllewinol Ewrop! Gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif a hyd at heddiw mae Cymru wedi allforio talent ar raddfa aruthrol – unigryw medd Dyfodol i’r Iaith – er dirfawr golled i’w heconomi, ei bywyd cymdeithasol a diwylliannol, ei hyfywedd demograffaidd, ac yn arbennig ei hiaith. A’r tu ôl i’r allfudiad yna wrth gwrs mae yna ragdybiaeth ddofn ei gwreiddiau – mai gwlad fach israddol, ddi-fenter, ddi-uchelgais yw Cymru. Diolch yn fawr iddi am ein magu ar ei bron wrth gwrs, ond mâs o ’ma piau os am gyrraedd yr uchelfannau a dod ymlaen yn y byd.

I genedlaetholwyr ifainc ail hanner yr ugeinfed  ganrif (leiafrif bach wrth gwrs) gweithred gwbl  fwriadol, nofio yn erbyn y llif, oedd penderfynu aros yng Nghymru i ymaddysgu, ennill bywoliaeth, magu teulu ac ymroi i’r dasg o saernïo dyfodol amgenach i Gymru. Cwbl ddiamynedd oedden-ni at y Gymru y’n magwyd ynddi, ac mi ddyffeia’i Guto Harri i’n cyhuddo o fod yn gyfyng ein safonau a’n gorwelion.

Ym mydoedd busnes a datblygiad cymdeithasol a diwylliannol a gwleidyddol cafodd y genhedlaeth yna gryn lwyddiant, trawsnewidiol gellid honni. Yn goron ar y cyfan, enillwyd mesur helaeth ac esblygol o hunan-lywodraeth.

Nodwedd allweddol o’r ‘Gymru Newydd’ yr oedden-ni am ei chodi oedd y byddai ei phobl  ifainc yn ei gweld mewn goleuni newydd – fel gwlad addas a chyffrous i fyw a gweithio ac adeiladu a chreu ynddi. Siawns na fyddai’n Cynulliad Cenedlaethol (Cenedlaethol  noder) yn datblygu polisïau er mwyn atal y gwaedlif. Buan y rhoddodd y Blaid Lafur stop ar unrhyw syniadau felly. Llifodd yr ystrydebau: cenedlaetholgar, ethnig, cam wahaniaethol, cul, mewnblyg, adweithiol ac yn y blaen. Tagwyd y dyhead yn ei fabandod. Nid dim ond ymwrthod ag atal y llif a wnaethpwyd ond ei gymeradwyo a’i annog, fel y mae Cynllun Seren a’r system gymorth ariannol yn dangos.

Ond wele deyrnasiad hir Llafur ar Gymru ar fin dirwyn i ben a chyfle i Blaid Cymru lunio gweledigaeth amgen. Eisoes fodd bynnag mae’n wynebu gwrthwynebiad. Yr un yw’r dadleuon ystrydebol ag a restrwyd uchod, ac wrth gwrs mae hunan-fudd ariannol yn codi’i ben. Oes perygl felly i’r Blaid gloffi yn ei bwriad?

Rhag ofn bod felly, dyma rybudd o’r tu arall. Pe na bai Plaid Cymru, a hithau’n arwain y Llywodraeth, yn ddigon eofn i afael yn y ddraenen a gweithredu’n effeithiol i wella’r nychdod hanesyddol hwn, byddai wedi methu â chyflawni un hanfodion ei chenhadaeth.

Yr eiddoch yn betrus-hyderus,
Cynog Dafis

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *