S4C YN YSTYRIED CYFLWYNO ISDEITLAU SAESNEG GORFODOL AT YR HIRDYMOR: DYFODOL I’R IAITH YN CONDEMNIO

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi darganfod tystiolaeth fod S4C yn ystyried cyflwyno isdeitlau Saesneg gorfodol ar ystod o raglenni Cymraeg yn y dyfodol.

Mae hyn yn groes i ddatganiadau cyson S4C yr wythnos hon mai ymgyrch 5 niwrnod yn unig yw’r isdeitlau Saesneg sydd ar y sgrin yr wythnos hon, ac nad oes unrhyw fwriad gan y sianel i gyflwyno isdeitlau Saesneg gorfodol yn y dyfodol.

Yn eu prif ddogfen strategaeth gorfforaethol, S4C: Edrych i’r Dyfodol, t. 33, mae S4C yn dweud fel a ganlyn:

“Hyd yma, y brif ffordd o wneud hyn (sef cyraedd cynulleidfa ddi-Gymraeg) oedd trwy ddarparu is-deitlau dewisol – hynny yw, is-deitlau Saesneg y mae’n rhaid i’r gwyliwr ei hun eu dewis trwy wasgu botwm. Rydym yn dal o’r farn y byddai gorfodi siaradwyr Cymraeg i wylio pob rhaglen gydag is-deitlau Saesneg agored ar y sgrîn yn amharu ar eu profiad gwylio.

Credwn fod modd arbrofi ymhellach gydag is-deitlau agored, ond heb wneud hynny’n arferiad ar bob rhaglen.

Byddwn, fel ar hyn o bryd, pan yn ail ddarlledu dramâu, yn parhau i wneud hynny gydag is-deitlau agored. Byddwn hefyd yn ystyried arbrofi trwy greu parthau penodol yn yr amserlen, er enghraifft ar ôl 10 o’r gloch, lle byddai pob rhaglen yn ddiwahân yn cario isdeitlau agored.”

Mae S4C o’r farn felly fod ‘modd arbrofi ymhellach gydag is-deitlau agored’. Yn benodol, maent am ystyried eu cyflwyno ar gyfer talpiau o’r amserlen ac ar gyfer ystod eang o raglenni yn ystod yr oriau hyn. Yn ystod y cyfnodau hyn, ni fydd modd diffodd yr isdeitlau Saesneg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae hi bellach yn anodd rhoi cred yn rheolwyr S4C, sydd yn fwriadol wedi ceisio camarwain Cymru gyfan.  Mae angen i Bennaeth a Chadeirydd S4C ystyried eu sefyllfa yn wyneb yr ymddygiad twyllodrus yma.

“Mae ymateb siaradwyr Cymraeg ledled Cymru’n unfrydol, gan gynnwys ymysg ieuenctid sydd wedi bod yn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n druenus nad ydyn ni bellach yn gallu ymddiried yn rheolwyr ein sianel.”

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *