Araith Simon Brooks ar ran Dyfodol i’r Iaith yng Ngwrthdystiad Caernarfon, 24 Ionawr 2015

Simon Brooks yn rali cartrefi cymunedol gwynedd 2Araith Simon Brooks ar ran Dyfodol i’r Iaith, gwrthdystiad Caernarfon, 24 Ionawr 2015 yn erbyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Diolch yn ofnadwy i Siân Gwenllian am ei safiad yn y mater hwn. A fo ben bid bont, a diolch ichi hefyd, Siân, am fod yn barod i bontio â mudiadau eraill yn y rhan yma o’r byd.

Yn fy marn i, y peth gorau a wnaeth Gwynedd erioed oedd normaleiddio’r iaith Gymraeg. Yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor a Chyngor Gwynedd heddiw – y cynghorau yn y gogledd-orllewin a wnaeth hi’n hanfodol fod eu swyddogion yn medru Cymraeg, ac yn medru Saesneg hefyd wrth gwrs, ac a fabwysiadodd y Gymraeg yn iaith fewnol eu gweithgareddau a’r gweithdrefnau.

Os bydd haneswyr yn y dyfodol yn gofyn beth oedd y peth mwyaf chwyldroadol ac arloesol a ddigwyddodd ym maes iaith yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, rwy’n siwr y byddan nhw’n ateb polisi iaith llywodraeth leol yng Ngwynedd.

Oherwydd Gwynedd ydi’r unig le yng Nghymru sydd wedi trin y Gymraeg fel mae’r Saesneg yn cael ei thrin yn Lloegr, a’r Swedeg yn Sweden, a’r Ffrangeg yn Québec, a’r Fasgeg yng Ngwlad y Basg, sef fel iaith ddiofyn, ddigymell mae disgwyl i bob cangen o fyd gwasanaethau cyhoeddus ei gwybod a’i defnyddio, efo’r cyhoedd ac ymysg ei gilydd.

Dyma un o’r prif resymau, efallai’r prif reswm, pam fod y Gymraeg wedi dal ei thir yn well yng Ngwynedd nag yn unman arall.

Oherwydd os ydych chi am gadw iaith leiafrifol, mae’n rhaid ichi roi’r iaith honno ynghanol yr economi. Ac mae polisi iaith Gwynedd wedi rhoi bri economaidd ar y Gymraeg a’r anogaeth angenrheidiol er mwyn i bobl ei dysgu, ac wedi rhoi hyder hefyd yn llafar siaradwyr Cymraeg, trwy fod yr iaith yn cael ei defnyddio’n broffesiynol.

A’r polisi yma sydd wedi rhoi cyd-destun i bolisi addysg y sir o gael ein plant yn ddwyieithog, yr unig sir yng Nghymru sy’n cymryd o ddifrif yr angen i wneud hynny. Oherwydd os ydi’r Gymraeg yn hanfodol yn y farchnad swyddi leol, gall pawb weld bod diben i’w plant ei meistroli hi.

A’r polisi yma o normaleiddio’r iaith Gymraeg sy’n peri fod yna gymunedau yng Ngwynedd ble mae canran y siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r ganran o’r boblogaeth a aned yng Nghymru. Hynny ydi, nid iaith gul yn perthyn i un grŵp ethnig yng Ngwynedd ydi’r Gymraeg, ond iaith amlethnig sy’n perthyn i bobl sydd wedi symud i mewn hefyd, am fod llawer ohonynt wedi dysgu Cymraeg am mai hi ydi iaith arferedig y gymdeithas a’r gweithle.

Yng Ngwynedd, y Gymraeg, os ca i ddwyn ymadrodd o Québec, ydi’r “iaith gyhoeddus gyffredin”. A Gwynedd ydi’r unig le yng Nghymru ble mae hyn yn wir ar hyn o bryd. A does yna ddim byd plwyfol ynglŷn â datgan hynny. Oherwydd am ei bod yn wir am lywodraeth leol yng Ngwynedd, mae ’na obaith y gallwn ni ei chael hi’n wir yng Ngheredigion, Sir Gâr ac Ynys Môn hefyd.

Waeth inni fod yn onest ddim, rhan o fyd gwasanethau cyhoeddus yng Ngwynedd ydi Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

A’r hyn mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei ddatgan gyda’u polisi newydd sy’n cynnig cyflogi Cyfarwyddwyr na fedrant iaith y sir ydi nad Cymraeg fydd iaith gyhoeddus gyffredin Gwynedd mwyach. Nid Cymraeg sydd i’w defnyddio rhwng pobl Gwynedd â’i gilydd yn eu swyddi bob dydd, ond Saesneg.

Polisi Ukip wedi ei fewnforio i mewn i’r ardal yma ydi hwn. Dweud mai un iaith, ac un iaith yn unig, gaiff fod yn iaith ddinesig ym Mhrydain, ac nid ein hiaith ni ydi honno.

Nid yn ein henw ni. Ac nid heb inni godi’n llais yn erbyn penderfyniad o’r fath.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *