Cynhadledd Cynaliawyedd a’r Gymraeg

Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus iawn ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Gwener y 22ain Chwefror ar ‘Cynaliadwyedd a’r Iaith Gymraeg’ gyda dros 70 yn mynychu. Cafodd ei threfnu ar y cyd rhwng Dyfodol i’r Iaith a Rhwydwaith WISE, Prifysgol Bangor. Llwyddodd y gynhadledd i dynnu cynulleidfa o bob cwr o Gymru ac o nifer o wahanol sefydliadau at ei gilydd.  Roedd y cynadleddwyr yn cynnwys rhai oedd ag arbenigedd a diddordeb ym meysydd cynaliadwyedd, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Nod y gynhadledd oedd

a) chwalu’r myth mai ystyriaethau amgylcheddol yn unig sydd i gynaliadwyedd

b) amlygu’r rhyngberthynas gymhleth sydd rhwng pobl, y blaned â’r economi os ydym am fod yn genedl gynaliadwy ac

c) datguddio fod yna gysylltiad clir a phendant rhwng cynaliadwyedd â’r Gymraeg yng Nghymru.

Erbyn diwedd y dydd roedd yn amlwg fod y grymoedd sy’n milwrio yn erbyn yr amgylchedd yn debyg iawn i’r rhai sy’n arwain at ddifaterwch at y Gymraeg ac fod yna le i’r rhai sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu i ddysgu o brofiadau ymgyrchwyr amgylcheddol wrth fynd ati i ddylanwadu ar bolisïau, yn benodol drwy sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei gweld fel elfen bwysig o gynaliadwyedd.

Bu trafodaeth frwd yn sgil pob un o’r cyflwyniadau gan siaradwyr oedd yn arbenigo yn eu meysydd penodol a bu’n gyfle i gasglu syniadau ynglŷn a’r cysylltiadau posibl rhwng yr agenda cynaliadwyedd a’r ymdrechion i sicrhau dyfodol y Gymraeg.

Cafwyd dau benderfyniad pwysig erbyn diwedd y dydd.

1. Y dylai cynifer o unigolion a sefydliadau â phosib fanteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru drwy ymateb, yn y lle cyntaf, i’r ymgynghoriad ar y Bil Datblygu Cynaliadwy a’r Bil Cynllunio gan bwysleisio’r angen i roi lle canolog i’r Gymraeg ynddyn nhw. Daw cyfnod ymgynghorol y Bil i ben ar Fawrth 4ydd.  http://wales.gov.uk/consultations/sustainabledevelopment/sdwhitepaper/?lang=cy).

2. Lluniwyd datganiad i’w anfon at Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:

 Mae lles yr iaith Gymraeg yn rhan o Ddatblygu Cynaliadwy yn ôl polisïau a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae cynhadledd Dyfodol ar Gynaliadwyedd a’r Gymraeg gynhaliwyd ym
Mangor, ddydd Gwener 22 ain o Chwefror 2013 yn cadarnhau’r farn y
dylai lles a datblygiad yr iaith Gymraeg fod yn greiddiol i ddiffiniad Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.

Rydym ni’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod lles a datblygiad y Gymraeg yn cael ei gynnwys yn un o’r elfennau sylfaenol  ar wyneb ddalen y Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig a hefyd y Bil Cynllunio maes o law.”

Mae Rhwydwaith WISE yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe.  Nod Rhwydwaith WISE yw darparu cymorth a chefnogaeth i sefydliadau lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a bod yn fwy cynaliadwy.  Mae Rhwydwaith WISE wedi ei ariannu yn rhannol gan Raglen Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu cymorth a chydweithio gyda busnesau yn Ardaloedd Cydgyfeiriant Cymru.  Am ragor o wybodaeth ymwelwch a’r gwefan: http://www.wisenetwork.org/cy

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *