Ymateb i’r Cyfrifiad – angen Arolygiaeth Cynllunio i Gymru

Mae angen sefydlu Arolygiaeth Cynllunio ar wahân i Gymry fel cam i warchod y Gymraeg mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg.  Dyna neges Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith, yn sgil cyhoeddi manylion iaith Cyfrifiad 2011.

Meddai Ms JOnes Parry, “Mae Dyfodol yr Iaith yn galw am sefydlu Arolygiaeth Cynllunio Annibynnol i Gymru.  Bydd angen i wleidyddion y Cynulliad ystyried hyn ar frys fel na fydd ymdrechion ieithyddol y deng mlynedd nesaf yn cael eu chwalu gan benderfyniadau cynllunio ac economaidd niweidiol.”

Ychwanegodd Ms Jones Parry,  “Bellach mae’n amlwg bod angen i’r Gymraeg fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd ac o gynllunio tai.  Mae angen i gynlluniau datblygu tai roi blaenoriaeth i effaith datblygiadau ar y Gymraeg.”

“Ar hyn o bryd un corff arolygu cynllunio sydd rhwng Cymru a Lloegr.  Felly mae’r cynllunio’n cael ei wneud am anghenion tai Cymru a Lloegr ar y cyd.  Hyn sy’n gyfrifol am y nifer annerbyniol o uchel o dai sydd ym mhob Cynllun Datblygu Unedol.”

“Mae Cymru i bob pwrpas yn cael ei datblygu fel Maes Datblygu i Loegr.”

“Enghraifft frys o’r angen am gynllunio call yw’r posibilrwydd y caiff meysydd carafanau yng Nghymru hawl i letya preswylwyr am flwyddyn gyfan yn lle deg mis. Gall hyn agor y llifddorau i newid natur ardaloedd gwledig.”

Meddai Bethan Jones Parry, “Mae llu o ffactorau’n gyfrifol am ddirywiad y Gymraeg mewn rhannau helaeth o’r wlad, gan gynnwys methiant Cymry i drosglwyddo’r iaith i’w plant. Ond mae ffactorau economaidd a chynllunio gwael yn gallu tanseilio’r ymdrechion gorau i warchod yr iaith.”

 

Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cynnal cynhadledd ar Gynaliadwyedd, Cynllunio a’r Iaith ym Mangor ddydd Gwener, Chwefror 22.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *