POLISI IAITH LIDL YN CYFATEB I DDEDDFAU PENYD YR OESOEDD CANOL

Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi condemnio polisi Lidl UK o wahardd staff rhag siarad ieithoedd heblaw am Saesneg gyda’i gilydd.

Mae Dyfodol wedi cymharu’r gwaharddiad ar y Gymraeg fel polisi tebyg i’r deddfau penyd yn erbyn y Cymry yn yr Oesoedd Canol.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym wedi ysgrifennu at y cwmni heddiw i’w hysbysu fod polisi o wahardd pobl yng Nghymru rhag siarad Cymraeg yn anghyfreithlon.

“Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Does dim modd i gwmni preifat wahardd iaith swyddogol gwlad.”

“Mae gwaharddiad ar y Gymraeg fel hyn yn atgoffa dyn o ddeddfau penyd yr Oesoedd Canol. Does dim modd ei gyfiawnhau mewn cymdeithas wâr.”

“Mae’r achos yma’n ei gwneud yn glir bod angen i’r Ddeddf Iaith a phwerau’r Comisiynydd Iaith gwmpasu’r sector preifat.”

Dechreuodd y ffrae gyda gwaharddiad Lidl UK ar staff o Wlad Pwyl rhag siarad Pwyleg gyda chwsmeriaid Pwyleg.

Dywedodd Heini Gruffudd:

“Carem hefyd fynegi ein cefnogaeth i Bwyliaid sy’n byw yng Nghymru. Credwn yn angerddol fod gan leiafrifoedd ethnig yr hawl i arfer eu hieithoedd ymhlith ei gilydd.”

Erbyn hyn mae Lidl wedi tynnu’r gwaharddiad yn ôl.

 

MEIRION PRYS JONES I GLORIANNU YMDRECHION IAITH Y LLYWODRAETH

Bydd Meirion Prys Jones, cyn bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn rhoi’r Llywodraeth yn y glorian yng nghynhadledd flynyddol Dyfodol i’r Iaith.

Bydd Meirion yn pwyso a mesur pa mor llwyddiannus fu trosglwyddo hyrwyddo’r iaith i weision sifil y Llywodraeth.

Cafodd y Llywodraeth ei beirniadu gan Ddyfodol i’r Iaith am gwtogi’r arian sydd ar gael i Gymraeg i Oedolion, a’i llongyfarch am gynnig arian i gychwyn Canolfannau Cymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni fel mudiad yn credu bod angen hyrwyddo’r Gymraeg ar raddfa eang, a bod angen sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am hyn ac yn gwarchod y Gymraeg.

Ychwanegodd, “Rydyn ni wedi anfon tystiolaeth i bwyllgor craffu’r Cynulliad ar y Bil Cynllunio ac yn gobeithio gweld y Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn deddf gynllunio.”

“Bydd clywed sylwadau Meirion, sydd â phrofiad eang o hyrwyddo’r Gymraeg, ac sy’n gwybod yn fanwl am ymdrechion gwledydd eraill yn Ewrop, yn fodd i ystyried beth y mae angen ei flaenoriaethau yn y blynyddoedd nesaf.”

Caiff cynhadledd Dyfodol i’r Iaith ei chynnal fore Sadwrn, Tachwedd 15 yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, am 11.30.