Y DRWS AR AGOR I GYDNABOD YR IAITH MEWN CYNLLUNIO

Mae’r drws ar agor i’r Gymraeg gael ei chydnabod mewn deddf fydd yn effeithio ar gynllunio tai.  Dyna gasgliad  Dyfodol i’r Iaith ar ôl cyfarfod â’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Cafodd Bil Cynllunio’r Llywodraeth ei gyflwyno dechrau mis Hydref, heb fod sôn ynddo am faterion polisi, gan gynnwys y Gymraeg.

Meddai’r cyfreithiwr Emyr Lewis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, “Roedd yn glir i ni fod y Prif Weinidog yn awyddus i ganfod ffordd i sicrhau na fydd cynlluniau tai newydd yn niweidiol i’r Gymraeg, ond bod materion ymarferol i’w datrys.”

Ychwanegodd Emyr Lewis, “Mae angen cyfundrefn statudol fydd yn galluogi’r Gymraeg i fod yn ystyriaeth ym maes cynllunio, ac a fydd yn darparu gwarchodaeth i’r Gymraeg oddi mewn i’r broses yn yr un modd ag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw yn gwarchod yr amgylchedd a safleoedd hanesyddol.”

Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dyfodol i’r Iaith a’r Prif Weinidog yn dilyn sylwadau a gyflwynodd y mudiad.  Cafwyd trafodaeth adeiladol, ac mae’r Prif Weinidog, yn ôl Dyfodol i’r Iaith,  wedi addo ymateb i awgrymiadau manwl y mudiad.  Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Prif Weinidog i ddatrys sut mae rhoi lle i’r Gymraeg mewn deddf sy’n ymwneud â chynllunio.

Cyfeiriodd Carwyn Jones at ei drafodaethau gyda Dyfodol i’r Iaith wrth ymateb i gwestiwn gan Aled Roberts am y bil cynllunio yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog ar brynhawn Mawrth, 21ain Hydref.   Dywedodd Carwyn Jones bod gan Dyfodol i’r Iaith syniadau diddorol, ond bod rhaid edrych ar beth sy’n ymarferol, ac ailadroddodd eto ei fod yn parhau i drafod gyda’r mudiad.

CROESAWU YMRWYMIAD I GREU GWEITHLU DWYIEITHOG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r ymrwymiad gan y Llywodraeth i greu gweithlu dwyieithog i wasanaethu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Cafodd papur gwyn y llywodraeth ei gyhoeddi’n amlinellu drafft 10 mlynedd ar gyfer y maes hwn.

Un elfen yn y papur gwyn yw cynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu, ac mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu hyn.

Meddai Dr Elin Walker Jones, sy’n seicolegydd clinigol ac yn llefarydd Dyfodol ar iechyd, “Rydyn ni’n croesawu’r ymrwymiad i greu gweithlu dwyieithog fel rhan o’r cynllun deng mlynedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r Llywodraeth a sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau gweithdrefnau priodol fydd yn gwireddu’r cynlluniau yma.”

Ychwanegodd Dr Jones, “Mae’n dda gweld y papur gwyn yn gweld bod cael gweithlu dwyieithog yn allweddol, ond dyw e ddim yn sôn yn fanwl am sut mae gweithredu hyn.”

Bydd Dyfodol i’r Iaith yn ymateb yn ffurfiol i’r papur gwyn, ac yn cynnig cynorthwyo gyda sefydlu trefn i sicrhau gweithlu dwyieithog.

Llythyr i’r Pwyllgor Deseibau

Dyma lythyr anfonwyd gan Gadeirydd Dyfodol i’r Iaith i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru parthed ein deiseb yn cefnogi’r Mentrau Iaith

Annwyl aelodau’r Pwyllgor Deisebau,

Rydym yn falch o wybod y byddwch yn ystyried y ddeiseb Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith yn eich cyfarfod nesaf ar 29 Ebrill 2014, ac mawr obeithiwn y byddwch yn gallu penderfynu gweithredu ymhellach arni yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol sy’n gweithredu er budd yr iaith Gymraeg yn lleol ac maent yn darparu ystod eang o weithgareddau a phrosiectau cyfrwng Cymraeg i bobl o bob oedran a chefndir yng nghymunedau Cymru.  Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru, yn datgan y dylai gwaith y Mentrau barhau a datblygu.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw’r Mentrau yn derbyn cyllid craidd digonol i weithredu i’w llawn botensial.  Gallwch ddarllen yr adroddiad yma http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130130-adroddiad-y-mentrau-cy.pdf

Penderfynodd Dyfodol i’r Iaith gyflwyno’r ddeiseb i gefnogi’r Mentrau yn dilyn yr arolwg o’u gwaith er mwyn galw ar y Cynulliad i ofyn i Llywodraeth Cymru gryfhau ei chefnogaeth i’r Mentrau, ac ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol yn dilyn yr arolwg hwnnw.

Roeddem yn falch iawn felly i glywed y Prif Weinidog yn datgan ei gefnogaeth i’r Mentrau Iaith mewn sawl datganiad yn ddiweddar, ac ar lawr y Cynulliad, yn dweud ei fod yn ystyried y Mentrau yn “offerynnau pwerus a gwerthfawr”, a’i fod am “sicrhau bod eu gwaith yn parhau yn y dyfodol.”  Rydym yn credu nawr ei bod yn amserol bod y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yn gweithredu er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i ddyfodol y Mentrau a’r iaith Gymraeg trwy fuddsoddi ynddynt.

Fe fyddwn ni’n falch iawn i drafod ymhellach gyda chi, ac fe fyddwn yn hapus iawn i ddod i un o’ch cyfarfodydd yn y dyfodol agos er mwyn trafod sut medrwch chi fel Pwyllgor ein cynorthwyo i gefnogi’r Mentrau Iaith er budd y Gymraeg ar draws Cymru.

Pob dymuniad da,

Heini Gruffudd